Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Cefndir eich Comisiynydd

Daeth Alun Michael yn Gomisiynydd cyntaf yr Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru ar 22 Tachwedd 2012, a chafodd ei ailethol ar gyfer ail dymor ar 5 Mai 2016.

Ei nod yw “gwasanaethu pobl De Cymru drwy wneud yr heddlu’n atebol a gosod blaenoriaethau ar gyfer atal ac ymladd trosedd”.

Cefndir eich Comisiynydd

Alun Michael oedd Aelod Seneddol Llafur a Chydweithredol De Caerdydd a Phenarth am 25 mlynedd, cyn iddo ymddiswyddo er mwyn sefyll yn etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn Ne Cymru.Dyma grynodeb o’i gefndir a’i ymgysylltiad â’r heddlu a chyfiawnder troseddol:Mae Alun Michael wedi treulio’i holl flynyddoedd gweithio yn Ne CymruWedi gadael y Brifysgol bu’n gweithio fel gohebydd ar y South Wales Echo am chwe blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw ef oedd ysgrifennydd cangen yr NUJ.

O 1972 bu’n weithiwr ieuenctid a chymuned yng Nghaerdydd am 15 mlynedd. Datblygodd brosiectau arloesol oedd yn rhoi sylw ar droseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith.

Wedi dod yn Ustus Heddwch yn 1972, bu’n cadeirio Mainc Troseddwyr Ifanc Caerdydd hyd nes cael ei ethol i’r Senedd yn 1987. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Cynghorydd Dinas o 1973 i 1989, yn chwarae rhan flaenllaw mewn cynllunio, ailddatblygu a datblygu economaidd.

Wedi cyfnod fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig, gwasanaethodd fel dirprwy i Tony Blair ac yna Jack Straw yn yr Adran Materion Cartref. Yn dilyn etholiad cyffredinol 1997 fe’i gwnaed yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref gyda chyfrifoldeb dros yr heddlu, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid a’r sector gwirfoddol. Yn 1998 ymunodd â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru oedd newydd ei sefydlu a dod yn Brif Ysgrifennydd (Prif Weinidog) Cymru. Wedi ymddiswyddo o’r Cynulliad, fe’i gwnaed yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Gwledig ac yna’n Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant a’r Rhanbarthau.

Ar ôl gadael y Llywodraeth yn 2006, daeth yn aelod amlwg o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, gan chwarae rôl amlwg yn adroddiad arloesol y Pwyllgor ar “Ail-fuddsoddiad Cyfiawnder”. Roedd Alun hefyd yn aelod blaenllaw o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a bu ganddo ran mewn ymchwiliadau pwysig i dirwedd newydd heddlua, terfysgoedd dinasoedd 2011 a’r polisi cyffuriau yn genedlaethol a rhyngwladol. Bu hefyd yn gadeirydd Fforwm y DU ar Lywodraethu’r Rhyngrwyd ac yn gadeirydd nifer o Grwpiau Hollbleidiol megis y Fforwm Seneddol ar y Rhyngrwyd a Thechnoleg Gwybodaeth, Llywodraethu Corfforaethol, Somaliland a Somalia, a Chymdeithas Sifil a Gwirfoddoli yn ogystal â bod yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Heddlua.

Roedd yn aelod o’r ddirprwyaeth arbenigol i ymchwilio i droseddau cysylltiedig â gangiau, radicaleiddio a phenaethiaid heddlu etholedig yn Los Angeles yn 2001, ac fe’i penodwyd i gydbwyllgor Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi ar gadw y rhai a amheuir o derfysgaeth.Mae ei wreiddiau gwleidyddol mewn cryfhau cymunedau lleol

Ei brofiad o weithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith yn, Llanrhymni, Llanedeyrn, Elai, Tre-biwt a Grangetown a’i harweiniodd at wleidyddiaeth genedlaethol. Fel AS cefnogodd gymunedau lleol – er enghraifft chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch bedair blynedd i stopio Cyngor Caerdydd rhag adeiladu ar “grin y pentref” gwerthfawr neu Gae Hamdden Rhymni.

Mae ganddo hanes o lwyddo mewn materion heddlua

Fel Dirprwy i Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, datblygodd bolisïau manwl Llafur ar gyfiawnder ieuenctid, heddlua, partneriaethau lleihau trosedd a’r sector gwirfoddol. Yn 1997, fel Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, llywiodd y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn i’r Llyfr Statud. Arweiniodd y Ddeddf honno at sefydlu partneriaethau lleol i leihau trosedd, timau troseddu ieuenctid, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Cafodd ganmoliaeth eang gan yr heddlu fel y darn gorau o ddeddfwriaeth cyfiawnder troseddol mewn cenhedlaeth.

Cysylltu â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Tŷ Morgannwg
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Ffôn: 01656 869366
Ebost: commissioner@south-wales.pnn.police.uk

Llw y Swydd

Mae’n rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dyngu Llw Didueddrwydd cyn gallu cymryd ei swydd. Ar 9 Mai 2016, tyngodd Alun Michael y llw hwn. “Yr wyf i, Alun Edward Michael yn datgan drwy hyn fy mod yn derbyn swydd Comisiynydd yr Heddlua Throseddu dros Dde Cymru.Wrth wneud y datganiad hwn, rwyf yn addo yn ddifrifol ac yn ddidwyll y byddaf, yn ystod fy nhymor yn y swydd, yn gwasanaethu holl bobl De Cymru yn swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.Byddaf yn ymgymryd â’m swyddogaeth gydag unplygrwydd a diwydrwydd, a hyd at eithaf fy ngallu, yn cyflawni dyletswyddau fy swydd i sicrhau fod yr heddlu’n gallu torri troseddau a gwarchod y cyhoedd.Byddaf yn rhoi llais i’r cyhoedd, yn enwedig dioddefwyr trosedd, ac yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau diogelwch y gymuned a chyfiawnder troseddol effeithiol.

Byddaf yn cymryd pob cam sydd o fewn fy ngallu i sicrhau tryloywder fy mhenderfyniadau, fel y gallaf gael fy nal i gyfrif yn briodol gan y cyhoedd.

Ni fyddaf yn ymyrryd ag annibyniaeth weithredol swyddogion yr heddlu.”

Addewidion i Bobl De Cymru

Wrth dyngu llw y swydd, gwnaeth Alun Michael dri addewid cychwynnol i bobl De Cymru. Yma, mae’n egluro beth ydyn nhw. Fy adduned gyntaf yw gwasanaethu, a chynrychioli buddiannau, poblogaeth gyfan De Cymru yn ddiduedd a heb ragfarn.Fy ail adduned yw rhoi’r pwyslais cryfaf posibl ar bwysigrwydd gwerthoedd yn y ffordd y llywodraethir yr heddlu. Mae yna egwyddorion unplygrwydd a didwylledd a thryloywder, ond credaf hefyd mewn rhai egwyddorion o ran gweithredu:
• bod yn galed ar droseddu ac achosion troseddu
• rhoi gwerthoedd cydweithredol ar waith, nid yn lleiaf i annog dull partneriaeth o leihau troseddau – ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn ogystal â mudiadau gwirfoddol a chymunedol a’r cyhoedd yn gyffredinol
• mynd ar ôl cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â chyfiawnder
• a dal yr heddlu i gyfrif ynghyd â gwarchod yr heddlu rhag ymyrraeth wleidyddol o ba gyfeiriad bynnag.Fy nhrydedd adduned yw cael gwared â’r defnydd o’r talfyriad PCC wrth gyfeirio yn Saesneg at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wrth gyfathrebu â’r cyhoedd ac yn fewnol. Ni ddylid drysu rhwng y Comisiynydd â’r Parochial Church Council, neu’r corff diddannedd hwnnw, y Press Complaints Commision, heb sôn am y Peebles Cycling Club neu’r Polynesian Culture Centre.Bydd cael gwared â’r blaenlythrennau diystyr hyn yn symbol fod pob cyfathrebu i fod yn eglur a syml, yn defnyddio geiriau y mae’r cyhoedd yn eu deall, yn lle blaenlythrennau sy’n tueddu i fod yn rhwystr i unrhyw un nad yw yn rhan o’r cylch cyfathrebu hud.Ac wedi i ni fynd i’r afael â’r gyllideb a’r Cynllun Heddlua – dau beth sydd angen eu cwblhau yn gyflym – byddaf yn egluro’n fanwl sut y bwriadaf siarad ar eich rhan a gweithio gyda’r Prif Gwnstabl, Peter Vaughan, i gyflawni drosoch chi a thros bob cymuned yn Ne Cymru.

Cyfrifoldebau’r Comisiynydd

Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fydd cynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon drwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r Prif Gwnstabl i wneud Heddlu De Cymru y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, ac mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn perthynas â diogelwch y gymuned a lleihau nifer y troseddau.Ymhlith ei ddyletswyddau mae:
• Pennu’r blaenoriaethau plismona lleol, a gyhoeddir mewn Cynllun Heddlu a Lleihau Trosedd;
• Cefnogi a herio perfformiad yr heddlu a chraffu arno;
• Pennu cyllideb flynyddol yr heddlu a phraesept y dreth gyngor*;
• Penodi* ac, os bydd angen, diswyddo’r Prif Gwnstabl;
• Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon;
• Mynd i gyfarfodydd Panel yr Heddlu a Throseddu;
• Ymchwilio i gwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl a monitro pob cwyn yn erbyn swyddogion a staff;
• Gweinyddu Cynllun Ymweld â’r Ddalfa yn Annibynnol;
• Ymgynghori â’r cyhoedd a’u cynnwys;
• Cydweithredu â heddluoedd eraill ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
(*yn amodol ar bleidlais atal Panel yr Heddlu a Throseddu)Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gyllid yr heddlu lleol. Bydd yn derbyn pob un o’r grantiau gan y llywodraeth a thaliadau praesept y dreth gyngor ac yn dyrannu’r gyllideb mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl.Bydd y Prif Gwnstabl yn parhau i fod yn gyfrifol am y plismona gweithredol yn Ne Cymru.Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn gwneud hyn yn effeithiol a’i fod yn atebol i’r cyhoedd.

Gweithio gyda’r Prif Gwnstabl (Protocol Heddlua)

Mae Gorchymyn Protocol Heddlua 2011, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref, yn gosod allan y fframwaith y bydd disgwyl i’r Comisiynydd ei ddilyn i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a Phanel yr Heddlu a Throseddu.Diben y Gorchymyn yw gwella heddlua i gymunedau lleol ac egluro swyddogaethau pob ochr.Yn ogystal, mae’n rhoi eglurhad am swyddogaeth yr Ysgrifennydd Cartref, gwybodaeth am annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl ac yn pennu cyfrifoldebau ariannol y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl ill dau.
Annibyniaeth Weithredol

Wrth gyflawni ei swyddogaeth, bydd disgwyl i’r Comisiynydd weithio’n agos â’r Prif Gwnstabl, a fydd yn cadw cyfrifoldeb dros weithgareddau gweithredol a rheolaeth y Llu o ddydd i ddydd.Mae’r Prif Gwnstabl yn gyfrifol am reoli cyllideb y Llu, penodi a diswyddo’i staff a sicrhau fod y gwasanaeth heddlua’n cael ei gyflwyno’n effeithiol er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau.Mae’n bwysig iawn sylweddoli, er mai gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros heddlua, a bod y Prif Gwnstabl yn atebol i’r Comisiynydd, gan y Prif Gwnstabl y mae’r annibyniaeth weithredol o ran cyfarwyddo a rheoli’r Llu. Cydnabyddir hyn gan y gyfraith fel y gall weithredu heb ymyrraeth wleidyddol.
Gofyniad Heddlua Strategol

Mae gofyn i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabliaid dalu sylw at y Gofyniad Heddlua Strategol wrth arfer eu swyddogaethau.Mae’r gofyniad hwn yn ymwneud â’r meysydd hynny lle mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb dros sicrhau fod digon o allu yn ei le i ymateb i fygythiadau troseddolrwydd difrifol a thraws-ffiniol megis terfysgaeth, argyfyngau sifil, anhrefn cyhoeddus a throseddau trefnedig, ac i gefnogi gwaith asiantaethau cenedlaethol fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.Nid yw’n ymwneud â meysydd lle y gall Prif Gwnstabliaid a chomisiynwr heddlu wneud asesiadau risg lleol effeithiol.

MENU