Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Dinasyddion ym maes Plismona (Gwirfoddoli)

Mae dinasyddion ym maes plismona yn derm cyffredinol ar gyfer y 500,000 a mwy o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r heddlu naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn genedlaethol.

Yn Heddlu De Cymru mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli cyffrous ar gael fel:

  • Cwnstabl Cynorthwyol
  • Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu
  • Gwirfoddolwr yr Heddlu dan Hyfforddiant
  • Band Heddlu De Cymru

Mae cyfleoedd hefyd i gefnogi’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddwyn yr Heddlu i gyfrif drwy wirio’n annibynnol sut y maent yn gofalu am y bobl yn y ddalfa a’u hanifeiliaid gwaith (cŵn a cheffylau), drwy wirfoddoli ar gyfer y canlynol:

Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn rhan o fentrau yn y gymuned i gefnogi Heddlu De Cymru, a helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Gallwch gymryd rhan drwy’r ddau gynllun canlynol:

  • Gwylio Cyflymder Cymunedol
  • Gwarchod Cymdogaeth

MENU