Cyflawni mwy gyda’n gilydd tuag at Dde Cymru mwy diogel

Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar

Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2016-21 y Comisiynydd yn cwmpasu chwe phrif faes â blaenoriaeth ar gyfer plismona dros y pum mlynedd nesaf. Er bod gorgyffwrdd clir rhwng pob un o’r meysydd, caiff y gwaith o fynd i’r afael â throseddau treisgar ei gwmpasu gan Flaenoriaeth 1 ar hyn o bryd, sef ‘Byddwn yn gostwng ac yn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a’u cymunedau’.

Mae’r ffrwd waith Troseddau Treisgar yn gorgyffwrdd â phartneriaid Heddlu De Cymru, ac yn rhan sylweddol o waith Byrddau Cynllunio Ardal, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Integredig Unigol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol o fewn ffiniau’r heddlu.

Mae gweithio gyda’n partneriaid i ostwng troseddu treisgar yn hollbwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ni allwn fynd i’r afael â’r broblem hon ar ein pen ein hunain.

Mae’r dull gweithredu hwn yn cynnwys tair thema strategol sy’n allweddol er mwyn gostwng troseddu treisgar, sef:

  • Deall trais yn gyfannol
  • Ymyrryd mewn ffordd effeithlon ac effeithiol
  • Atal trais drwy ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y canlyniadau hyn a’n gwaith gyda phartneriaid, cliciwch yma.

Daniel Jones, Arweinydd Polisi Strategol ar gyfer Gostwng Trais ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n arwain y prosiect hwn. Cysylltwch ag ef yn Daniel.jones10@south-wales.pnn.police.uk

MENU