Cyflawni mwy gyda’n gilydd tuag at Dde Cymru mwy diogel

Lleihau Troseddu ac Aildroseddu yn y Grŵp Oedran 18-25

Mae Lleihau Troseddu ac Aildroseddu ymysg y grŵp oedran 18-25 yn flaenoriaeth allweddol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Cydnabyddir yn eang bod pobl yn y grŵp oedran hwn yn gyfrifol am nifer anghymesur o droseddau a gofnodir, tra bod aildroseddu ymysg y grŵp o dan 18 oed wedi gostwng yn sylweddol.

Project-18-25-Logo-815x1024

Bydd y prosiect hwn felly yn ceisio adeiladu ar y model llwyddiannus a ddefnyddir ledled De Cymru gan y Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, lle mae ymyrraeth holistaidd wedi’i ymgorffori i mewn i arfer.

Nodau cyffredin y prosiect hwn yw:

  • Sicrhau dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr
  • Atal troseddu ac aildroseddu
  • Defnyddio adnoddau yn fwy effeithlon ac effeithiol
  • Datblygu a gweithredu rhaglen wyro effeithiol ar gyfer y grŵp oedran 18-25
  • Cynyddu hyder y cyhoedd 

Drwy ymestyn llwyddiant y Timau Troseddau Ieuenctid i’r grŵp oedran 18-25, bydd y prosiect hwn yn ceisio nodi datrysiadau a fydd yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc a’u grymuso i gymryd rheolaeth o’u bywydau ac i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau. Bydd gwella’r llwybr pontio rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau oedolion yn ffactor allweddol wrth atal aildroseddu a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau.

Bydd y prosiect hefyd yn ceisio nodi pobl ifanc y tybir eu bod ‘yn wynebu risg o aildroseddu’ a gweithio gyda hwy. Byddwn yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ac ymyriadau yn y gymuned, ac yn gweithio ochr yn ochr gydag asiantaethau statudol ac anstatudol i nodi gwasanaethau cynaliadwy, fel y gellir eu dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn ceisio rhoi’r sgiliau ac adnoddau ychwanegol i staff gweithredol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyflym ac effeithiol, ac i godi eu hyder wrth ddelio ag oedolion ifanc.

Drwy gynnwys dioddefwyr drwy gydol y broses, yn unol â Chod Ymarfer i Ddioddefwyr, efallai gellir delio â throseddwyr y tu allan i achosion llys. Bydd yr atebion cymunedol hyn yn galluogi’r heddlu i dargedu adnoddau yn fwy effeithiol, ac mae’r prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i ni ddysgu o ‘Ranbarthau Adferol’ eraill ledled y DU, ac atgynhyrchu’r arfer gorau yn Ne Cymru.

Yn yr un modd, mae’r prosiect yn ceisio codi hyder y cyhoedd o ran y grŵp oedran hwn. Y nod yw lleihau’r ofn a’r stigma sy’n gyffredin ym meddwl y cyhoedd ynglŷn ag oedolion ifanc. Drwy godi ymwybyddiaeth ac adrodd positif, y gobaith yw y bydd y cyhoedd yn deall y grŵp oedran 18-25 yn well ac yn eu derbyn yn well.

Bydd y tîm prosiect yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid allweddol i gyflawni’r nodau, sy’n cynnwys: Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid; Cyfnod ar brawf; Cwmni Adsefydlu Cymunedol; Gwasanaeth Llys Ei Mawrhydi; NSPCC; Prifysgolion; Canolfan Byd Gwaith; Gyrfa Cymru; Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau; Asiantaethau’r Sector Gwirfoddol; Tai; Gwasanaethau Ieuenctid a Chefnogi Pobl.

MENU