Gwneud cais am Adolygiad
O 1 Chwefror 2020, gallwch gyflwyno cais am adolygiad i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru os nad ydych chi'n fodlon ar ganlyniad eich cwyn, neu os nad ydych chi'n fodlon ar y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud cais am adolygiad i'r sefydliad cywir. Dylai Heddlu De Cymru fod wedi ysgrifennu atoch i ddweud ble i gyflwyno'ch adolygiad. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch ag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu De Cymru neu ein swyddfa.
Os hoffech wneud cais am adolygiad, cwblhewch y ffurlen hon a'i hanfon at:
PCCReviews@south-wales.police.uk
neu postio i:
Adolygiad Cwyn
Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-Faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Cyn i chi gyflwyno adolygiad, rydym yn argymell eich bod yn darllen y wybodaeth isod.
Pryd y gallwch ofyn i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru am Adolygiad?
Os cofnodwyd eich cwyn o dan Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, mae gennych hawl i wneud cais am adolygiad o ganlyniad y gŵyn. Mae'n rhaid i'r cais hwnnw gael ei wneud o fewn 28 diwrnod ar ôl anfon canlyniad ysgrifenedig eich cwyn atoch. Fodd bynnag, gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu estyn y cyfnod hwn, os yw'n fodlon bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.
Os byddwch yn gwneud cais dilys i gael cwyn wedi'i hadolygu, byddwn yn cysylltu â Heddlu De Cymru i gael cofnod llawn o'ch cwyn. Bydd swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond yn cadw'r wybodaeth a'r ddogfennaeth a ddarperir gan Heddlu De Cymru hyd nes y daw'r adolygiad i ben.
Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw canlyniad eich cwyn a'r ffordd yr ymdriniwyd â hi, yn rhesymol ac yn gymesur.
Pwy all ofyn am adolygiad?
Dim ond achwynydd, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, all wneud cais am adolygiad mewn perthynas â chŵyn. Mae'n rhaid eich bod wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad eich cwyn cyn i chi wneud cais am adolygiad.
Pa adolygiadau y gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ymdrin â nhw?
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yw'r corff adolygu perthnasol ar gyfer y cwynion canlynol:
Dylai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ymdrin â phob cais arall am adolygiad.
Pe baech yn gwneud cais am Adolygiad inni yn anghywir, byddem yn sicrhau bod eich cais yn cael ei drosglwyddo i'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, pe baech yn gwneud cais i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu y dylai'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ymdrin ag ef, byddai'n anfon eich cais atom cyn gynted â phosibl.
Sut y gellir gwneud cais am adolygiad?
Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig gan nodi'r wybodaeth ganlynol:
Fodd bynnag, gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu benderfynu ystyried adolygiad er nad yw'n cydymffurfio ag un neu fwy o'r gofynion hyn.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cais am adolygiad gael ei gyflwyno?
Os mai ni yw'r sefydliad cywir, byddwn yn cydnabod derbyn eich cais yn ysgrifenedig ac yn rhoi gwybod i chi am yr amser tebygol y bydd yn ei gymryd i ystyried eich cais am adolygiad. Dylech ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol i ni am eich cwyn ac unrhyw wybodaeth a allai helpu'r adolygiad ar hyn o bryd.
Er mwyn ystyried eich apêl, byddwn yn cysylltu â Heddlu De Cymru ac yn gofyn iddynt ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a'r ffordd yr ymdriniwyd â hi.
Ar ôl i ni gael yr holl wybodaeth, byddwn yn cynnal yr adolygiad ac yn gwneud ein penderfyniad. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gyfleu i chi yn ysgrifenedig, ynghyd â rhesymeg glir ar sail tystiolaeth.
Mae'n bwysig deall na allwn ymchwilio i'ch cwyn eto – gallwn ond asesu'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn a'i chanlyniad. Ar ôl i ni wneud penderfyniad, bydd hynny'n rhoi terfyn ar eich cwyn. Nid oes hawl pellach i gael adolygiad o'r penderfyniad nac i apelio.
HYGYRCHEDD
Os yw'n anodd i chi ddefnyddio'r ffurflen hon neu'r gwasanaeth hwn – er enghraifft, os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os oes gennych anabledd – cysylltwch â ni:
Rhif ffôn: 01656 869366
E-bost: PCCReviews@south-wales.police.uk
Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i'ch helpu i ddefnyddio'r system gwyno, nodwch y rhain isod. Er enghraifft, os oes gennych nam ar y golwg, efallai y bydd angen i ni ddarparu ymatebion ysgrifenedig mewn testun mwy o faint. Gallwn hefyd ddarparu dogfennau ar ffurf EasyRead. Mae'r ffurflen hon ar gael yn Gymraeg, ac os hoffech chi gyfathrebu drwy'r Gymraeg, rhowch wybod i ni.
Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…
Gweld mwy >Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…
Gweld mwy >#HyrwyddoTegwch #DRhM2023
Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…
Gweld mwy >