Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Mae'n bwysig nodi bod y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn:
Am rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn, dewiswch yr opsiwn priodol:
Yng nghyd-destun system gwyno'r heddlu, mae'r gyfraith yn disgrifio cwyn fel anfodlonrwydd â'r heddlu a fynegwyd gan aelod o'r cyhoedd, neu ar ei ran.
Er enghraifft, gall cwynion fod am y gwasanaeth a ddarperir, neu hyd yn oed benderfyniad neu bolisi plismona. Fodd bynnag, gellir hefyd wneud cwyn am ymddygiad unrhyw berson sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu, h.y. swyddog yr heddlu, aelod o staff yr heddlu, cwnstabl gwirfoddol, gwirfoddolwr dynodedig neu unigolyn sy'n gweithio dan gontract i ddarparu gwasanaethau i brif swyddog.
Er mwyn gwneud cwyn yn erbyn Heddlu De Cymru, gallwch wneud y canlynol:
Pan fydd y swyddfa hon yn cael cwyn neu fynegiant o anfodlonrwydd am Heddlu De Cymru, ei swyddogion neu ei staff, byddwn yn cyfeirio'r mater i Heddlu De Cymru i'w ystyried.
Os bydd gennych bryder am y ffordd y mae Heddlu De Cymru wedi ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol neu os byddwch yn cael problem yn cael gwybodaeth ganddo, gallwch roi gwybod am hyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Information Commissioner’s Office.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru.
Os ydych o'r farn bod y Prif Gwnstabl wedi ymddwyn mewn ffordd nad yw'n cyrraedd y safonau y byddai unigolyn rhesymol yn eu disgwyl, mae gennych yr hawl i wneud cwyn.
Gallwch wneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl drwy gwblhau'r Ffurflen Gwneud Cwyn yn Erbyn y Prif Gwnstabl.
Ar ôl cael cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl, bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn unol â'r Canllawiau Statudol a luniwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, yn penderfynu a ddylid ei chofnodi o fewn 10 diwrnod gwaith ac yn eich hysbysu yn unol â hynny. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn cymryd pob cwyn o ddifrif, a bydd yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich cwyn ar bob cam o'r broses gwyno.
Dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau i:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru Pencadlys yr Heddlu Heol y Bont-faen Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
E-bost: commissioner@south-wales.police.uk
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae adran derfynol y Ffurflen Gwyno yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Er nad yw cwblhau'r adran hon o'r ffurflen yn orfodol, gofynnwn i chi ddarparu'r wybodaeth ofynnol gan ei bod yn ein galluogi i fonitro'r proffil o achwynwyr a nodi tueddiadau a all fod yn bwysig.
Caiff y wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol, ac ni fydd yn gysylltiedig â'ch cwyn bersonol nac yn cael ei defnyddio gan neb sy'n ymdrin â'r gwyn.
Efallai yr hoffech gyfeirio at ein Polisi Cwynion.
Panel yr Heddlu a Throseddu sy'n gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (a'r Dirprwy Gomisiynydd). Bydd y Panel yn ymdrin ag unrhyw gwynion lefel isel yn erbyn y Comisiynydd neu ei Ddirprwy, a chaiff unrhyw broblemau difrifol eu hatgyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Os bydd gennych gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru neu Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, dylech gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig i:
Panel Heddlu a Throseddu De Cymru
d/o Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Yr Adran Gwasanaethau Democrataidd,
Y Ganolfan Ddinesig,
Stryd y Castell,
Merthyr Tudful,
CF47 8AN
E-bost – swpcp@merthyr.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma neu ffoniwch - 01685 725000
Mae dyletswydd ar y Comisiynydd i nodi nifer y cwynion neu faterion ymddygiad y tynnodd Panel yr Heddlu a Throseddu ei sylw atynt.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn aelodau o'i dîm.
Os byddwch yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan aelod o'r tîm neu os byddwch o'r farn bod aelod o'r tîm wedi ymddwyn mewn ffordd nad yw'n cyrraedd y safonau y byddai unigolyn rhesymol yn eu disgwyl, mae gennych yr hawl i wneud cwyn.
Cwblhewch y Ffurflen Gwneud Cwyn yn Erbyn Tîm y Comisiynydd a'i dychwelyd drwy'r post neu e-bost:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru Pencadlys yr Heddlu Heol y Bont-faen Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
E-bost: commissioner@south-wales.police.uk
Bydd y Comisiynydd yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich cwyn ar bob cam o'r broses gwyno.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae adran derfynol y Ffurflen Gwyno yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Er nad yw cwblhau'r adran hon o'r ffurflen yn orfodol, gofynnwn i chi ddarparu'r wybodaeth ofynnol gan ei bod yn ein galluogi i fonitro'r proffil o achwynwyr a nodi tueddiadau a all fod yn bwysig.
Caiff y wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol, ac ni fydd yn gysylltiedig â'ch cwyn bersonol nac yn cael ei defnyddio gan neb sy'n ymdrin â'r gwyn.
Efallai yr hoffech gyfeirio at ein Polisi Cwynion.
I gael manylion am sut i wneud cwyn yn erbyn Panel yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma.
Os hoffech gwyno am broblem gymunedol megis parcio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch 101.
O dan polisi Safonau’r Gymareg, gall cwyn gael ei gwneud gan unrhyw berson sydd o'r farn bod Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, neu unrhyw aelod o'i staff, wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Nid yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gwynion sy'n ymwneud â methiant swyddogion neu staff Heddlu De Cymru i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru sy'n gyfrifol am hyn o hyd.
Gallwch gwyno i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am ddiffyg cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg os byddwch o'r farn bod unrhyw un o'r canlynol wedi digwydd:
Rhaid i gwynion gael eu gwneud i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn y cyfeiriad canlynol:
Tŷ Morgannwg
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Rhif ffôn: 01656 869366
E-bost: commissioner@south-wales.police.uk
Mae rhagor o wybodaeth am ein Safonau Iaith Gymraeg ar gael yma.
Os hoffech ddiolch am wasanaeth da gan dîm y Comisiynydd, cliciwch yma.
Os hoffech ddiolch am wasanaeth da gan Heddlu De Cymru, cliciwch yma.
HYGYRCHEDD
Os yw'n anodd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn – er enghraifft, os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os oes gennych anabledd – cysylltwch â ni:
Rhif ffôn: 01656 869366
E-bost: commissioner@south-wales.police.uk
Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i'ch helpu i ddefnyddio'r system gwyno, nodwch y rhain isod. Er enghraifft, os oes gennych nam ar y golwg, efallai y bydd angen i ni ddarparu ymatebion ysgrifenedig mewn testun mwy o faint. Gallwn hefyd ddarparu dogfennau ar ffurf EasyRead. Ein Ffurfleni ar gael yn Gymraeg, ac os hoffech chi gyfathrebu drwy'r Gymraeg, rhowch wybod i ni.
Mae dolen i ganllaw Hawdd ei Ddeall ar y system gwynion yma ar wefan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…
Gweld mwy >