res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Gwneud cwyn

Trosolwg o Ddelio â Chwynion a Data Cwynion

Ym mis Chwefror 2020, newidiodd y Llywodraeth y system gwyno fel bod heddluoedd yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol gwahanol iawn. Nod y diwygiadau oedd sicrhau dull mwy cymesur o ymdrin â chwynion gyda'r pwyslais ar ddysgu.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi mabwysiadu Model 1 sy'n golygu mai Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru sy'n gyfrifol am unrhyw anfodlonrwydd, cwyn ac ymddygiad sy'n ymwneud â phlismona gweithredol, swyddogion a staff o dan ei gyfarwyddyd a'i reolaeth. Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys cofnodi, ymchwilio a sicrhau bod achwynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt cwynion a phenderfyniad sy'n ymwneud â chwynion.

O dan fframwaith Model 1, (1) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl, (2) mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddyletswydd i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu proses gwyno effeithiol ac effeithlon a (3) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw'r Corff Adolygu Perthnasol ar gyfer rhai cwynion.

(1) Cwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl

Caiff cwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl eu hasesu yn unol â'r Canllawiau Statudol a luniwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yw'r Corff Adolygu Perthnasol ar gyfer y cwynion hyn. Os bydd achwynydd yn enwi'r Prif Gwnstabl ond bod y gŵyn mewn gwirionedd yn ymwneud â rhywbeth a ddirprwywyd i swyddog arall neu aelod arall o staff yn yr heddlu, yn unol â deddfwriaeth, caiff y gŵyn ei hanfon ymlaen i'r Adran Safonau Proffesiynol.

(2) Sut rydym yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif

Creffir ar gwynion gan ddefnyddio nifer o ddulliau gan gynnwys drwy gynnal cyfarfodydd misol ag uwch-swyddogion yn yr Adran Safonau Proffesiynol a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ffurfiol sy'n cynnwys y fforwm Gwersi a Ddysgwyd Strategol a'r Grŵp Monitro Strategol. Caiff ffeiliau achwynwyr eu hapsamplu gan staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a hysbysir yr Adran Safonau Proffesiynol am feysydd sy'n destun pryder y gellir eu uwchgyfeirio i'r fforwm Gwersi a Ddysgwyd Strategol yn ogystal â byrddau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys y Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd a Bwrdd Strategol y Comisiynydd.

Gwneir gwaith craffu pellach ar swyddogaeth gwyno'r heddlu gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM. Ceir adroddiadau ar eu gwaith craffu a'u canfyddiadau ar eu priod wefannau.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyhoeddi gwybodaeth am gwynion yr ymdriniwyd â nhw o dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Heddlu a Throseddu 2017. Ceir y Bwletin Gwybodaeth am Gwynion yr Heddlu ar gyfer Heddlu De Cymru yma o dan y pennawd “Read the latest bulletins”.

(3) Rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel y Corff Adolygu Perthnasol ar gyfer rhai cwynion

Rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, cafwyd 107 o geisiadau i adolygu canlyniad cwynion yn yr heddlu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae'r rheoliadau newydd sy'n ymwneud â chwynion yn erbyn yr heddlu yn darparu bod gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu un elfen i'w hystyried, sef a oedd canlyniad y gŵyn yn erbyn yr heddlu yn rhesymol ac yn gymesur. Os bydd canlyniad yr Adolygiad yn tybio bod y canlyniad a ddarparwyd gan yr heddlu yn rhesymol ac yn gymesur, ni chaiff yr Adolygiad ei gadarnhau. Os bydd unrhyw elfen o'r Adolygiad y tybir nad yw'n rhesymol nac yn gymesur, cadarnheir yr Adolygiad. O'r 107 o adolygiadau hynny, aseswyd bod 23 yn Annilys, cadarnhawyd 10 o Adolygiadau, cadarnhawyd 4 yn rhannol, ni chadarnhawyd 63 a 7 o adolygiadau sy'n rhagorol.

Rhwng Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, cymerodd 24 diwrnod, ar gyfartaledd, i gwblhau adolygiadau.

Yn unol â Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) (Diwygio) 2021, caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi bob blwyddyn ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cael ei chydnabod am e…

Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…

Gweld mwy >

Recriwtiwyd dros 850 o swyddogion newydd i Tim HDC yn ystod y tair blynedd diwet…

Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…

Gweld mwy >

Mae Emma Wools yn esbonio sut yn union y mae'r Glasbrint ar gyfer Menywod yn ‘hy…

#HyrwyddoTegwch #DRhM2023

Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…

Gweld mwy >