Resize Text:

Switch to:

Cymryd Rhan

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn Prif Gwnstabliaid a heddluoedd i gyfrif, gan olygu bod yr heddlu yn atebol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Felly, rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym maes ymgysylltu yw sicrhau bod pryderon plismona a diogelwch ein cymunedau amrywiol yn cael eu clywed ac yr eir i'r afael â nhw yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.  Sylweddolwn, er mwyn cynrychioli ein cymunedau'n gywir, fod angen i ni sefydlu proses gyfathrebu ddwyffordd, sy'n cynnwys ein cymunedau, yn rhyngweithio â nhw ac yn gwrando arnynt.  Mae hyn yn ein galluogi i'w cynrychioli, a ninnau wedi meithrin gwybodaeth am eu hanghenion, nid gwneud tybiaethau.

Fel sefydliad, rydym bob amser yn croesawu syniadau a safbwyntiau'r bobl rydym yn eu gwasanaethu er mwyn helpu i lunio ac ysbrydoli ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Mae ein cynulleidfaoedd yn bwysig i ni a sylweddolwn pa mor bwysig ydyw i gyfathrebu ac ymgysylltu yn y ffyrdd mwyaf priodol ac ystyrlon, er mwyn deall anghenion a disgwyliadau amrywiol y cyhoedd.

I gael gwybod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgynghoriadau, cyfleoedd i ymgysylltu a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Latest News

£880k ar gyfer Uned Lleihau Trais De Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn un o ddeunaw Comisiynydd ledled Cymru a Lloegr y dyfarnwyd rhan o gronfa £35m iddynt er mwyn sefydlu…

Read More >

Ffilm addysgol yn mynd i'r afael â thrais a chamfanteisio gan gangiau 'Llinellau…

Bydd Fearless, gwasanaeth ieuenctid elusen 'Crimestoppers', yn lansio ffilm newydd yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae gangiau …

Read More >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ennill gwobr genedlaethol am ymwel…

Mae Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi ennill gwobr Arian genedlaethol am ansawdd ei gynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.

Cyflwyn…

Read More >