Resize Text:

Cyfleoedd gwirfoddoli

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles anifeiliaid

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol

Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.

I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma

 

Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.

I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma

Latest News

£880k ar gyfer Uned Lleihau Trais De Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn un o ddeunaw Comisiynydd ledled Cymru a Lloegr y dyfarnwyd rhan o gronfa £35m iddynt er mwyn sefydlu…

Read More >

Ffilm addysgol yn mynd i'r afael â thrais a chamfanteisio gan gangiau 'Llinellau…

Bydd Fearless, gwasanaeth ieuenctid elusen 'Crimestoppers', yn lansio ffilm newydd yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae gangiau …

Read More >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ennill gwobr genedlaethol am ymwel…

Mae Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi ennill gwobr Arian genedlaethol am ansawdd ei gynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.

Cyflwyn…

Read More >