Resize Text:

Switch to:

Gwneud cwyn

Mae’n bwysig nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn:

  • Y Prif Gwnstabl
  • Aelodau o’i staff ei hun (Tîm y Comisiynydd)

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad un o swyddogion Heddlu De Cymru (islaw rheng Prif Gwnstabl), neu aelod o staff yr heddlu, mae’n rhaid i chi gyfeirio eich cwyn i Adran Safonau Proffesiynol Heddlu De Cymru.

Os hoffech gwyno am broblem gymunedol megis parcio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch 101 neu siaradwch ag aelod o’ch Tîm Plismona yn y Gymdogaeth.

Os hoffech ddiolch am wasanaeth da, llenwch eich ffurflen ar-lein neu ffoniwch ni ar 101

 

  • A yw eich cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl?
    Os hoffech wneud cwyn am y Prif Gwnstabl, cliciwch yma.

  •  A yw eich cwyn yn erbyn Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?
    Os hoffech wneud cwyn am aelod o staff y Comisiynydd, cliciwch yma.

  • A yw eich cwyn yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?
    Panel yr Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (a’r Dirprwy Comisiynydd). Bydd y Panel yn delio ag unrhyw gwynion lefel isel, gan gyfeirio unrhyw broblemau difrifol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

    I gyflwyno cwyn sy’n ymwneud ag ymddygiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cysylltwch â’r Panel yn uniongyrchol yn y cyfeiriad canlynol:

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
    Y Ganolfan Ddinesig
    Stryd y Castell
    Merthyr Tudful
    CF47 8AN

    Mae gan y Comisiynydd ddyletswydd i roi manylion am nifer y cwynion neu faterion ymddygiad y mae Panel yr Heddlu a Throseddu wedi’u dwyn i’w sylw.

  • A yw eich cwyn yn erbyn Panel yr Heddlu a Throseddu?
    I gael manylion am sut i wneud cwyn yn erbyn Panel yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma.

 

Latest News

Hysbyseb am Aelod Cyfetholedig Annibynnol ar gyfer Panel yr Heddlu a Throsedd …

Mae Panel yr Heddlu a Throsedd De Cymru (y Panel) yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’r Panel fel Aelod Cyfetholedig Annibynnol i…

Read More >

Lansio strategaeth newydd i fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched y…

Yn Neuadd y Sir Caerdydd, ddydd Iau 3 Hydref, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Alun Michael, bartneriaid ledled De Cymru i la…

Read More >

Y Comisiynydd yn cydnabod cyfraniad Hyrwyddwyr Datblygu pobl dduon ac Asiaidd a …

Yr wythnos hon cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau er mwyn cydnabod ymrwymiad a chymorth …

Read More >