Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadUn o brif gyfrifoldebau'r Comisiynydd yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, er mwyn i wasanaeth yr heddlu yn Ne Cymru weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.
Mae'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn hyrwyddo pedair egwyddor er mwyn sicrhau bod trefniadau 'dwyn i gyfrif' yn effeithiol:
Darparu her 'cyfaill beirniadol' adeiladol
Amlygu lleisiau a phryderon y cyhoedd
Cael arweiniad gan bobl annibynnol sy'n cymryd cyfrifoldeb am eu rôl
Ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus
Mae'r Comisiynydd a'i dîm yn gweithio gyda'r egwyddorion hyn mewn golwg wrth gyflawni eu rôl goruchwylio a chraffu.
Mae'r cyfarfodydd canlynol yn cefnogi'r broses graffu a goruchwylio:
Bwrdd Strategol y Comisiynydd
Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd y Prif Gwnstabl a'i Brif Swyddogion hefyd yn bresennol. Y Bwrdd hwn yw'r brif ffordd y mae'r Comisiynydd yn goruchwylio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr heddlu ac yn monitro cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu .
Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd y Comisiynydd
Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd Prif Swyddogion y Prif Gwnstabl yn bresennol. Mae'r Bwrdd hwn yn craffu'n fanwl ar faterion plismona penodol, yn enwedig y rhai a nodwyd yng Nghynllun Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd a Chynllun Cyflawni cysylltiedig y Prif Gwnstabl. Yn y cyfarfod hefyd, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a phrosiectau allweddol yr heddlu. Caiff y canfyddiadau eu cyfleu i'r Bwrdd Strategol. Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl a rhaglen graffu 2019 yma.
Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG) y Comisiynydd
Mae'r grŵp hwn, sy'n cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr y Comisiynydd, yn helpu'r Comisiynydd â'i swyddogaeth graffu a goruchwylio drwy ddarparu mewnbwn allanol, annibynnol.
Cydbwyllgor Archwilio
Mae'r pwyllgor hwn, sydd wedi'i gadeirio'n annibynnol, yn mynd ati i gyd-arolygu Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd. Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl yma.
Mae'r Comisiynydd hefyd yn monitro hynt Heddlu De Cymru o ran yr argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS), ac mae'n ymateb i adroddiadau perthnasol HMICFRS. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau craffu'r Comisiynydd, cysylltwch â'r Pennaeth Craffu a Sicrwydd (Hannah Jenkins-Jones) yn Hannah.jenkins-jones@south-wales.pnn.police.uk .
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >