res
Newid maint testun:

Cyfleoedd gwirfoddoli

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles anifeiliaid

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol

Llun o ymwelwyr annibynnol dan glo yn cynnal ymweliad â ddalfa'r heddlu

Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.

I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma

Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.

I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >