Resize Text:

Switch to:

Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol a Cynllun Ymweld ar gyfer Lles Anifeiliaid

Cynlluniau Ymweld i Wirfoddolwyr

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld i wirfoddolwyr. Nod y cynlluniau yw rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y ffordd y mae'r heddlu yn cyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd.

Yn Ne Cymru, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd statudol a'r cynllun ymweld  ar gyfer lles anifeiliaid anstatudol. Mae'r Comisiynydd yn penodi gwirfoddolwyr o'r gymuned lleol ac yn eu hyfforddi i ymweld â gorsafoedd yr heddlu, a safle cŵn a cheffylau'r heddlu yn ddirybudd.

Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd

“Mae ymweliadau annibynnol â dalfeydd yn system hirsefydledig lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu i weld sut y caiff y carcharorion eu trin a'r amodau yno, ac i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae'n cynnig diogelwch a chyfrinachedd i garcharorion a'r heddlu, ynghyd â sicrwydd i'r gymuned yn gyffredinol” (Cod Ymarfer ar Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd, 2013).

Gydag oddeutu 26,000 o arestiadau'n arwain at gadw unigolion yn y ddalfa yn Ne Cymru yn ystod 2019/20, mae'n oruchwyliaeth gymunedol effeithiol o ddalfeydd yr heddlu ac yn un agwedd ar rôl graffu a goruchwylio gyffredinol y Comisiynydd.

Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid

Fel rhan o'r Cynllun Ymweld ar gyfer Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn adrodd ar les cŵn a cheffylau’r heddlu drwy ymweld â safle cŵn a cheffylau Heddlu De Cymru bob pythefnos.

Os hoffech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ymweld i wirfoddolwyr, anfonwch e-bost atom yn volunteer@south-wales.police.uk.

Y newyddion diweddaraf

Tasglu'n cymryd camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched

Mae tasglu newydd, sy'n dod ag asiantaethau allweddol at ei gilydd, wedi cael ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n gweithio i herio agweddau ac ymdd…

Gweld mwy >

Heddlu De Cymru yn distewi i gofio'r rhai a aberthodd eu bywydau

Heddiw, cynhaliwyd gwasanaeth coffa – wedi'i arwain gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn sicrhau cyllid i wella diogelwch ar strydoedd Rhondda Cynon Taf…

Caiff cyfres o fesurau eu cyflwyno er mwyn gwneud strydoedd Rhondda Cynon Taf yn fwy diogel i fenywod a merched, diolch i gais llwyddiannus am gyllid …

Gweld mwy >