Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2022-2026 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruFel y nodwyd yn Neddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 'ddyletswydd statudol a mandad etholiadol i ddwyn yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd'. Mae sicrhau ansawdd a chraffu cefnogol yn broses sy'n galluogi'r Comisiynydd i herio, yn ogystal â rhoi cymorth i'r heddlu wneud gwelliannau ac ymateb yn briodol. Hefyd, mae'n ceisio annog ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd o ran effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd plismona lleol.
Ymarferion Sicrhau Ansawdd
Mae aelodau o dîm y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cynnal ymarferion sicrhau ansawdd yn rheolaidd, yn amrywio o adolygu ffurflenni stopio a chwilio wedi'u cwblhau, gwylio ffilmiau o gamerâu fideo a wisgir ar y corff a monitro boddhad dioddefwyr.
Stopio a Chwilio
Mae adolygiadau stopio a chwilio yn sicrhau bod modd craffu ar ffurflenni stopio a chwilio a gwblhawyd ym mhedwar rhanbarth yr heddlu, a hynny o bersbectif ‘person lleyg’. Caiff ffurflenni wedi'u cwblhau eu hystyried o safbwynt eu cywirdeb a'u cyfreithlondeb o ran defnyddio pwerau stopio a chwilio a'r rhesymau dros chwilio. Mae pob ymarfer hap-samplu hefyd yn sicrhau yr archwilir cyfran o ffurflenni sy'n gysylltiedig â phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gan gydnabod bod nifer anghymesur o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig cael eu stopio a’u chwilio, gall craffu o'r fath sicrhau bod pwerau yn cael eu defnyddio mewn ffordd deg, a bod modd ymchwilio i achosion o gamddefnyddio pwerau a'u herio'n briodol.
Llongyfarchiadau mawr i ddau PCSO o Dde Cymru a oedd ymhlith yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo genedlaethol yr wythnos diwethaf.
Ar noson lwyddiannus …
Gweld mwy >Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru Alun Michael yn ôl i'r ysgol ddydd Llun, 19 Rhagfyr.
Aeth i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin…
Cynhaliodd Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru seminar ymwybyddiaeth o stopio a chwilio ddydd Iau, 8 Rhagfyr.
Cynhaliwyd y seminar yn Jers…
Gweld mwy >