res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Eich Comisiynydd

Llun o Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun MichaelLlun o Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael

Mae eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael yn gynrychiolydd etholedig, sy’n gweithio er mwyn sicrhau y caiff Heddlu De Cymru ei redeg yn effeithiol.

Daeth Alun Michael yn Gomisiynydd cyntaf yr Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru ar 22 Tachwedd 2012, a chafodd ei ailethol ar gyfer trydydd dymor ar 9 Mai 2021.

Ei nod yw lleihau troseddau a chynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon yn ogystal â ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Mae’r Comisiynydd yn cynrychioli ‘llais y cyhoedd’ a’i nod yw sicrhau bod pryderon plismona a diogelwch ein cymunedau amrywiol yn cael eu clywed ac yr eir i’r afael â nhw yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Yma, cewch chi hefyd fwy o wybodaeth am y Comisiynydd a’i dîm, y blaenoriaethau plismona y mae Mr Michael am fynd i’r afael â hwy ochr yn ochr â’r Prif Gwnstabl, a gallwch ddysgu mwy am y partneriaid y mae’r Comisiynydd a’r heddlu yn gweithio gyda hwy i helpu i gadw De Cymru yn ddiogel.

 

Mae’r dyfodol bob amser yn ansicr ond dyma’r egwyddorion a wnaiff sicrhau ein bod ar y trywydd iawn wrth i ni barhau ar ein taith tuag at Dde Cymru hyd yn oed yn fwy diogel:

  • Atal troseddu, a chefnogi cymunedau diogel, hyderus a chryf yw cyfrifoldeb cyntaf yr heddlu
  • Rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol, gan grebachu gyda’i gilydd, nid ar wahân, gan ganolbwyntio ar wasanaethau cynaliadwy
  • Rhaid i dueddiadau troseddol a’u hachosion craidd gael eu nodi a’u trechu’n gyflym
  • Mae’r materion a wynebir gan ein cymunedau yn galw am ymyrraeth gynnar, ynghyd â chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol ar sail tystiolaeth ac wedi’u datblygu mewn partneriaeth
  • Rhaid i ni gydweithio tuag at les cenedlaethau’r dyfodol gan gynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl pan fo ei angen arnynt.

Mae manylion llawn y genhadaeth , gweledigaeth , gwerthoedd ac egwyddorion ar gael yn y Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru.

 

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >