Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2023-2027 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Ymgysylltu ar gymuned Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruDaeth Alun Michael yn Gomisiynydd cyntaf yr Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru ar 22 Tachwedd 2012, a chafodd ei ailethol ar gyfer trydydd dymor ar 9 Mai 2021.
Ei nod yw “gwasanaethu pobl De Cymru drwy wneud yr heddlu’n atebol a gosod blaenoriaethau ar gyfer atal ac ymladd trosedd”.
Cefndir eich Comisiynydd
Alun Michael oedd Aelod Seneddol Llafur a Chydweithredol De Caerdydd a Phenarth am 25 mlynedd, cyn iddo ymddiswyddo er mwyn sefyll yn etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn Ne Cymru.Dyma grynodeb o’i gefndir a’i ymgysylltiad â’r heddlu a chyfiawnder troseddol:Mae Alun Michael wedi treulio’i holl flynyddoedd gweithio yn Ne Cymru. Wedi gadael y Brifysgol bu’n gweithio fel gohebydd ar y South Wales Echo am chwe blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw ef oedd ysgrifennydd cangen yr NUJ.
O 1972 bu’n weithiwr ieuenctid a chymuned yng Nghaerdydd am 15 mlynedd. Datblygodd brosiectau arloesol oedd yn rhoi sylw ar droseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith.
Wedi dod yn Ustus Heddwch yn 1972, bu’n cadeirio Mainc Troseddwyr Ifanc Caerdydd hyd nes cael ei ethol i’r Senedd yn 1987. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Cynghorydd Dinas o 1973 i 1989, yn chwarae rhan flaenllaw mewn cynllunio, ailddatblygu a datblygu economaidd.
Wedi cyfnod fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig, gwasanaethodd fel dirprwy i Tony Blair ac yna Jack Straw yn yr Adran Materion Cartref. Yn dilyn etholiad cyffredinol 1997 fe’i gwnaed yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref gyda chyfrifoldeb dros yr heddlu, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid a’r sector gwirfoddol. Yn 1998 ymunodd â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru oedd newydd ei sefydlu a dod yn Brif Ysgrifennydd (Prif Weinidog) Cymru. Wedi ymddiswyddo o’r Cynulliad, fe’i gwnaed yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Gwledig ac yna’n Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant a’r Rhanbarthau.
Ar ôl gadael y Llywodraeth yn 2006, daeth yn aelod amlwg o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, gan chwarae rôl amlwg yn adroddiad arloesol y Pwyllgor ar “Ail-fuddsoddiad Cyfiawnder”. Roedd Alun hefyd yn aelod blaenllaw o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a bu ganddo ran mewn ymchwiliadau pwysig i dirwedd newydd heddlua, terfysgoedd dinasoedd 2011 a’r polisi cyffuriau yn genedlaethol a rhyngwladol. Bu hefyd yn gadeirydd Fforwm y DU ar Lywodraethu’r Rhyngrwyd ac yn gadeirydd nifer o Grwpiau Hollbleidiol megis y Fforwm Seneddol ar y Rhyngrwyd a Thechnoleg Gwybodaeth, Llywodraethu Corfforaethol, Somaliland a Somalia, a Chymdeithas Sifil a Gwirfoddoli yn ogystal â bod yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Heddlua.
Roedd yn aelod o’r ddirprwyaeth arbenigol i ymchwilio i droseddau cysylltiedig â gangiau, radicaleiddio a phenaethiaid heddlu etholedig yn Los Angeles yn 2001, ac fe’i penodwyd i gydbwyllgor Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi ar gadw y rhai a amheuir o derfysgaeth.Mae ei wreiddiau gwleidyddol mewn cryfhau cymunedau lleol
Ei brofiad o weithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith yn, Llanrhymni, Llanedeyrn, Elai, Tre-biwt a Grangetown a’i harweiniodd at wleidyddiaeth genedlaethol. Fel AS cefnogodd gymunedau lleol – er enghraifft chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch bedair blynedd i stopio Cyngor Caerdydd rhag adeiladu ar “grin y pentref” gwerthfawr neu Gae Hamdden Rhymni.
Mae ganddo hanes o lwyddo mewn materion heddlua
Fel Dirprwy i Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, datblygodd bolisïau manwl Llafur ar gyfiawnder ieuenctid, heddlua, partneriaethau lleihau trosedd a’r sector gwirfoddol. Yn 1997, fel Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, llywiodd y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn i’r Llyfr Statud. Arweiniodd y Ddeddf honno at sefydlu partneriaethau lleol i leihau trosedd, timau troseddu ieuenctid, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Cafodd ganmoliaeth eang gan yr heddlu fel y darn gorau o ddeddfwriaeth cyfiawnder troseddol mewn cenhedlaeth.
_______________
Cyflog: £86,700.00
Cysylltu â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Ffôn: 01656 869366
Ebost: commissioner@south-wales.police.uk
Mae’n rhw y Swyddaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dyngu Llw Didueddrwydd cyn gallu cymryd ei swydd. Ar 10 Mai 2021, tyngodd Alun Michael y llw hwn.
“Yr wyf i, Alun Edward Michael yn datgan drwy hyn fy mod yn derbyn swydd Comisiynydd yr Heddlua Throseddu dros Dde Cymru.
Wrth wneud y datganiad hwn, rwyf yn addo yn ddifrifol ac yn ddidwyll y byddaf, yn ystod fy nhymor yn y swydd, yn gwasanaethu holl bobl De Cymru yn swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Byddaf yn ymgymryd â’m swyddogaeth gydag unplygrwydd a diwydrwydd, a hyd at eithaf fy ngallu, yn cyflawni dyletswyddau fy swydd i sicrhau fod yr heddlu’n gallu torri troseddau a gwarchod y cyhoedd.
Byddaf yn rhoi llais i’r cyhoedd, yn enwedig dioddefwyr trosedd, ac yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau diogelwch y gymuned a chyfiawnder troseddol effeithiol.
Byddaf yn cymryd pob cam sydd o fewn fy ngallu i sicrhau tryloywder fy mhenderfyniadau, fel y gallaf gael fy nal i gyfrif yn briodol gan y cyhoedd.
Ni fyddaf yn ymyrryd ag annibyniaeth weithredol swyddogion yr heddlu.”
_________
Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fydd cynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon drwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r Prif Gwnstabl i wneud Heddlu De Cymru y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, ac mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn perthynas â diogelwch y gymuned a lleihau nifer y troseddau.Ymhlith ei ddyletswyddau mae:
(*yn amodol ar bleidlais atal Panel yr Heddlu a Throseddu)
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gyllid yr heddlu lleol. Bydd yn derbyn pob un o’r grantiau gan y llywodraeth a thaliadau praesept y dreth gyngor ac yn dyrannu’r gyllideb mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl.
Bydd y Prif Gwnstabl yn parhau i fod yn gyfrifol am y plismona gweithredol yn Ne Cymru.
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn gwneud hyn yn effeithiol a’i fod yn atebol i’r cyhoedd.
Mae Gorchymyn Protocol Heddlua 2011, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref, yn gosod allan y fframwaith y bydd disgwyl i’r Comisiynydd ei ddilyn i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a Phanel yr Heddlu a Throseddu.
Diben y Gorchymyn yw gwella heddlua i gymunedau lleol ac egluro swyddogaethau pob ochr.
Yn ogystal, mae’n rhoi eglurhad am swyddogaeth yr Ysgrifennydd Cartref, gwybodaeth am annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl ac yn pennu cyfrifoldebau ariannol y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl ill dau.
Annibyniaeth Weithredol
Wrth gyflawni ei swyddogaeth, bydd disgwyl i’r Comisiynydd weithio’n agos â’r Prif Gwnstabl, a fydd yn cadw cyfrifoldeb dros weithgareddau gweithredol a rheolaeth y Llu o ddydd i ddydd.
Mae’r Prif Gwnstabl yn gyfrifol am reoli cyllideb y Llu, penodi a diswyddo’i staff a sicrhau fod y gwasanaeth heddlua’n cael ei gyflwyno’n effeithiol er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau.
Mae’n bwysig iawn sylweddoli, er mai gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros heddlua, a bod y Prif Gwnstabl yn atebol i’r Comisiynydd, gan y Prif Gwnstabl y mae’r annibyniaeth weithredol o ran cyfarwyddo a rheoli’r Llu.
Cydnabyddir hyn gan y gyfraith fel y gall weithredu heb ymyrraeth wleidyddol.
Mae gofyn i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabliaid dalu sylw at y Gofyniad Heddlua Strategol wrth arfer eu swyddogaethau.Mae’r gofyniad hwn yn ymwneud â’r meysydd hynny lle mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb dros sicrhau fod digon o allu yn ei le i ymateb i fygythiadau troseddolrwydd difrifol a thraws-ffiniol megis terfysgaeth, argyfyngau sifil, anhrefn cyhoeddus a throseddau trefnedig, ac i gefnogi gwaith asiantaethau cenedlaethol fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Nid yw’n ymwneud â meysydd lle y gall Prif Gwnstabliaid a chomisiynwr heddlu wneud asesiadau risg lleol effeithiol.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…
Gweld mwy >