Ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol er mwyn helpu i atal problemau cyn iddynt waethygu sydd wrth wraidd cynllun pum mlynedd ar gyfer plismona De Cymru.
Mae’r cynllun, sy’n seiliedig ar gydweithrediad agos â phartneriaid mewn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer cadw ein cymunedau yn ddiogel. Ac mae’n atgyfnerthu gweledigaeth Heddlu De Cymru i sicrhau mai Heddlu De Cymru yw’r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ei gymunedau.
Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae gan Alun Michael gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu blaenoriaethau lleol ar gyfer plismona – ac yn Ne Cymru caiff hyn ei wneud gyda’r Prif Gwnstabl a’i dîm yn ogystal â gwrando ar farn y cyhoedd a sefydliadau partner.
Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho fersiynau digidol o’n Cynllun yr Heddlu a Throseddu, ond os byddai’n well gennych gael copi caled o’r ddogfen, gallwch gael y rhain o’ch gorsafoedd heddlu gweithredol agosaf. Mae eu lleoliadau a’u hamseroedd agor i’w gweld yma.
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >