res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cynllun Heddlu a Throseddu 2023-2027

Ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol er mwyn helpu i atal problemau cyn iddynt waethygu sydd wrth wraidd cynllun pum mlynedd ar gyfer plismona De Cymru.

Mae’r cynllun, sy’n seiliedig ar gydweithrediad agos â phartneriaid mewn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer cadw ein cymunedau yn ddiogel. Ac mae’n atgyfnerthu gweledigaeth Heddlu De Cymru i sicrhau mai Heddlu De Cymru yw’r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ei gymunedau.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae gan Alun Michael gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu blaenoriaethau lleol ar gyfer plismona – ac yn Ne Cymru caiff hyn ei wneud gyda’r Prif Gwnstabl a’i dîm yn ogystal â gwrando ar farn y cyhoedd a sefydliadau partner.

Gyda'r awdurdod a nodir yn Neddf Diwygio'r Heddlu 2011, mae fy Nghynllun yr Heddlu a Throseddu yn cynnwys y blaenoriaethau ar gyfer Heddlu De Cymru.

Fel y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cymeraf gyfrifoldeb llawn am y Cynllun, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ond bob blwyddyn ers 2012 rwyf wedi cynnwys y Prif Gwnstabl a'i Dîm o Brif Swyddogion yn llawn yn y gwaith o ddatblygu'r cynllun, a chaiff y dull cydweithredol hwnnw ei adlewyrchu ym manylion y Cynllun ei hun. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu hefyd wrth datblygu cynllun cyflawni'r Prif Gwnstabl a'r manylion sydd ynddo ac yn y Datganiad hwn ar Reoli'r Heddlu – mae wedi dod yn rhan annatod o'r ffordd y gwnawn bopeth yn Ne Cymru.

Caiff Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru ei ddiweddaru bob blwyddyn yng ngoleuni'r galwadau datblygol a wynebir ym maes plismona ac ynghyd â'r Prif Gwnstabl ystyriaf yr adnewyddiad blynyddol yn ffordd o gynnal ein hymrwymiad personol i ddatblygu ein priod rolau a'n cyfrifoldebau ar y cyd i roi'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd ac i'n cymunedau. Mae'r broses adolygu hefyd yn arwain at waith craffu blynyddol gan Banel yr Heddlu a Throseddu a'r gwaith o ymgysylltu â'r cyhoedd, yn ogystal â phartneriaid allanol a mewnol, i sicrhau bod y Cynllun yn benodol, yn berthnasol ac yn gyfredol. Rydym yn ystyried y cynllun yn ddogfen fyw ac yn rhan annatod o drafodaethau â'n partneriaid a'n cymunedau, yn hytrach na dogfen sydd ond yn rhan o broses ffurfiol.

Caiff yr un ymdeimlad o flaenoriaeth ei roi i waith fy nhîm â phartneriaethau ledled De Cymru, megis datblygu Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-24 a'r Strategaeth Dioddefwyr a Thystion a ddrafftiwyd yn ddiweddar. Mae'r ddwy strategaeth wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol er mwyn ysgogi ein dull o weithredu yng Nghymru. Mae gwaith Atal ac Ymyrryd yn Gynnar wrth wraidd ein dull gweithredu, ac yn llythrennol ar sail iechyd y cyhoedd, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bartner allweddol wrth fynd i'r afael â mathau o niwed yn cynnwys camddefnyddio sylweddau a thrais.

Yn ddiweddar, rydym wedi wynebu'r blynyddoedd mwyaf heriol erioed, gyda COVID-19 yn gosod pwysau sylweddol ar ben gwaith plismona arferol, ond rydym wedi ystyried hyn fel cyfle. Rwy'n ymfalchïo'n fawr yng ngwydnwch ein swyddogion a'n staff, y gwaith partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, ein partneriaid llywodraeth leol, y GIG a'n cymunedau ledled De Cymru. Heb os, mae ffyrdd newydd o atal, ymyrraeth gynnar a chydweithio wedi llywio ein dull gweithredu a byddant yn gwneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

Llun o lofnod Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael

Y Gwir Anrh Alun Michael
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >