res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Gweithio mewn partneriaeth

Nid rôl i’r heddlu yn unig yw trechu troseddu ac anrhefn, a sicrhau bod cymunedau’n teimlo’n fwy diogel.

Caiff y rhan fwyaf o’r gwasanaethau sy’n effeithio ar lefelau troseddu ac aildroseddu eu darparu gan sefydliadau megis awdurdodau lleol, y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaethau pobl ifanc, yr ymddiriedolaeth brawf a’r gwasanaeth iechyd.

Felly, mae’n rhaid i bartneriaeth gref fod yn ganolog i blismona – ac mae hyn yn rhywbeth y mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei gredu ynddo. Mae ei flaenoriaethau’n seiliedig ar yr egwyddor ganlynol:

‘Delio’n llym â throseddu ac achosion troseddu, trechu ac atal troseddu trwy hyrwyddo ffordd o weithio mewn partneriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i adnabod “yr hyn sy’n gweithio” a sut y gallaf ychwanegu gwerth.’

Mae’r Comisiynydd yn gweithio’n agos gyda’r canlynol i helpu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau:

  • partneriaid mewn Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru
  • partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn enwedig y GIG
  • grwpiau dioddefwyr a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
  • y gymuned fusnes ac eraill sydd â diddordeb 

Mae gan y Comisiynydd gyfrifoldebau ehangach na’r rheini sy’n ymwneud â’r heddlu, gan gynnwys:

  • darparu diogelwch cymunedol a lleihau nifer y troseddau 
  • y gallu i ddwyn partneriaethau diogelwch ynghyd yn y gymuned ar lefel yr heddlu
  • rhoi grantiau lleihau trosedd ac anrhefn yn ardal De Cymru
  • dyletswydd i sicrhau bod cytundebau cydweithio yn darparu gwell gwerth am arian neu effeithiolrwydd i’r heddlu
  • gwella’r gwaith o ddarparu cyfiawnder troseddol yn yr ardal.

 

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cael ei chydnabod am e…

Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…

Gweld mwy >

Recriwtiwyd dros 850 o swyddogion newydd i Tim HDC yn ystod y tair blynedd diwet…

Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…

Gweld mwy >

Mae Emma Wools yn esbonio sut yn union y mae'r Glasbrint ar gyfer Menywod yn ‘hy…

#HyrwyddoTegwch #DRhM2023

Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…

Gweld mwy >