Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2022-2026 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Ymgysylltu ar gymuned Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruDechreuodd Emma Wools yn ei rôl fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 14 Tachwedd 2016 ar secondiad o’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yng Nghymru.
Cadarnhawyd y penodiad hwn gan Banel Heddlu a Throseddu De Cymru ddydd Mawrth 18 Hydref 2016.
Diben y rôl yw helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei waith.
Ynglŷn ag Emma Wools
Mae Emma wedi arwain timau amlasiantaeth, gan gydweithio ag amrywiaeth eang o asiantaethau mewnol ac allanol, gan nodi cyfleoedd i integreiddio gwasanaethau ym mhob rhan o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, ac achub ar y cyfleoedd hynny.
Gan weithio i’r Gwasanaeth Prawf ers 2001, dechreuodd Emma ar ei thaith tuag at arweinyddiaeth drwy gydgysylltu gwasanaeth Rheoli Integredig Troseddwyr Caerdydd. Bu'n rhan allweddol o'r gwaith o ddatblygu’r esiampl ardderchog hon o arferion da, a gyfrannodd yn sylweddol at y dirwedd partneriaeth bresennol yng Nghymru ac at strategaeth a pholisi cenedlaethol. Wedi hynny, bu'n gweithio mewn rolau Datblygu Busnes a Rheoli Rhaglenni yn IOM Cymru, cyn ymgymryd â'i rôl arwain ddiweddaraf fel Pennaeth Integreiddio’r Gwasanaeth Troseddwyr, sef y rôl arwain gyntaf yn y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, lle mae'n gyfrifol am Garchardai’r Sector Cyhoeddus, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a phartneriaethau.
Mae Emma wedi gweithio yn y maes hwn ers 15 mlynedd ac mae'n cael ei hystyried yn ‘arbenigwr’ ar weithio integredig ymysg ei chydweithwyr, gan ennyn hyder ymhlith uwch-arweinwyr ar draws y bartneriaeth, yn ogystal â dylanwadu ar eraill ac ennyn brwdfrydedd ynghylch gweledigaeth a diben y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr.
Bu'n gyfrannydd allweddol at y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru, sydd wedi helpu i ostwng lefelau troseddu ac aildroseddu ledled Cymru.
Yn ogystal ag arwain ei sefydliad ei hun, mae Emma hefyd yn arwain y dirwedd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a thu hwnt. Mae manteision posibl integreiddio, cydweithio a mwy o wasanaethau a ddarperir ar y cyd yn enfawr, fodd bynnag mae'r heriau er mwyn cyflawni hyn yn sylweddol. Bydd dylanwadu ar yr agenda hon yn gofyn am set benodol iawn o sgiliau; gweledigaeth uchelgeisiol sydd bob amser yn edrych ymlaen; gwydnwch, y gallu i sicrhau ymrwymiad gan arweinwyr ar lefel uchaf sefydliadau ac addasu ei hagwedd at weithio gyda staff drwy asiantaethau.
Cafodd y cyfrifoldebau hyn a'r sgiliau eu cydnabod gan Wobr Arwain Cymru 2016, fel Arweinydd y Genhedlaeth Nesaf.
Cafodd Emma ei phenodi'n Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 14 Tachwedd 2016. Mae Emma yn arwain pedwar swyddfa'r comisiynwyr a'r partneriaid cyfiawnder troseddol ar yr agenda cydraddoldebau hiliol, gan eu cynrychioli ar lwyfannau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol. Mae'n arweinydd ar y cyd â Dirprwy Brif Gwnstabl Bacon ar gyfer cydraddoldeb hiliol yn Heddlu De Cymru, gan ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar y cyd.
Cynhaliodd Cymdeithas Cyflawniad Menywod Ethnig Lleiafrifol Cymru (EMWWAA), sefydliad elusennol sydd â'r nod o greu rhwydwaith o fenywod a merched o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru, sy'n ysbrydoli cenhedlaethau heddiw ac yfory, seremoni wobrwyo ym mis Mai 2023. Cynhelir y seremoni hon bob 2 flynedd. Cafodd Emma ei chydnabod am ei sgiliau Rheoli ac Arwain a chafodd ei gwobrwyo yn y categori hwn.
Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu>
Mae Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynorthwyo Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mhob agwedd ar ei rôl tra’n cymryd cyfrifoldeb arwain personol am feysydd gweithgarwch ar gais y Comisiynydd.
Prif gyfrifoldebau Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu yw:
_______________
Cyflog: £79,000.00
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
T: 01656 869366
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >