Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Ebrill '21)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru. Elusen yw hon sy'n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy'n cynnig ffordd well i bobl ifanc na'r risg o gael eu denu i droseddu, ymddwyn mewn ffordd gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Y nod yw eu helpu i fyw bywydau diogel, iach a llawn.
Yn ddiweddar, adolygodd yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid ei blaenoriaethau ar gyfer grantiau a chyhoeddodd brosbectws newydd yn amlinellu ei nod a'r canlyniadau y mae am eu cyflawni:
Fel rhiant, tad-cu a chyn-weithiwr ieuenctid yng Nghaerdydd, mae'r Comisiynydd yn frwd dros bwysigrwydd buddsoddi mewn pobl ifanc, ac mae wedi cefnogi ffocws yr Ymddiriedolaeth ar dargedu ei hadnoddau at y cymunedau a'r bobl ifanc sydd eu hangen fwyaf.
Wrth siarad am yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid, dywedodd y Comisiynydd:
"Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi rhai prosiectau gwych ledled De Cymru, gan ddod â'n heddlu cymdogaeth, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill ynghyd gyda phobl ifanc er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau ac yn eu cymunedau. Rwy'n falch o fod yn rhan o'r Ymddiriedolaeth, sy'n gweithio mewn ffordd gynnil, ond ffordd gynyddol, er mwyn gwneud gwahaniaeth.Rydym wedi buddsoddi arian o Ddeddf Eiddo'r Heddlu ac rydym ar fin lansio ymgyrch newydd i godi arian, gan gynnwys fy nhîm fy hun sy'n cynllunio eu hymdrechion codi arian eu hunain ar ran yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid. ”
Mae Gwybodaeth Ategol a Chanllawiau ar gael ar wefan Heddlu De Cymru (o dan 'Amdanom Ni') gan gynnwys astudiaethau achos a sut i wneud cais am gyllid:
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi tystiolaeth feddygol gymhellol pam na allwn lacio'r rheolau a gadael i bawb wneud fel y mynnant. Mae'r penwy…
Gweld mwy >Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn …
Gweld mwy >Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a st…
Gweld mwy >