res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol

Ein gweledigaeth yw mai Heddlu De Cymru ‘fydd y gorau am ddeall anghenion ein cymunedau ac ymateb iddynt’.  Gwyddom na ellir sicrhau hynny heb roi blaenoriaeth i gydraddoldeb ac amrywiaeth a gweithio i sicrhau canlyniadau gwirioneddol.

Rydym yn cydnabod bod bob amser llawer mwy y gellir ei wneud er mwyn sicrhau y gall pawb yn Ne Cymru fyw heb ddioddef aflonyddu, camwahaniaethu, anghydraddoldeb nac anfantais.  Gobeithiwn y bydd ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb yn dod â ni’n agosach at gyflawni’n gweledigaeth drwy adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes o safbwynt hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cynllun Cydraddoldeb at y Cyd

Wrth gyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd 2019-23 rydym yn dangos ein bod yn benderfynol o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cyflawni’n prif amcanion cydraddoldeb.  Mae’r ddogfen honno’n nodi’n cynlluniau i sicrhau bod pwyslais digonol ar gydraddoldeb a bod cynnydd yn cael ei fonitro’n barhaus.

Yr amcanion cydraddoldeb a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb hwn yw’r rhai rydym wedi eu dewis fel y prif feysydd y mae angen i ni weithio arnynt i gyflawni’n hamcanion o dan y Ddyletswydd Gyffredinol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Maent hefyd wedi’u hadnabod mewn ymgynghoriad â chyrff cynrychiadol.

Llun o 'hawdd i ddarllen'   Mae fersiwn hawdd ei darllen o'n Cynllun Cydraddoldeb hefyd ar gael yma


Diweddariadau ar Gynnydd

Caiff cynnydd yn erbyn amcanion ei amlinellu yn ein hadroddiadau blynyddol a'n gwybodaeth fonitro flynyddol. Mae'r Comisiynydd yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar gynnydd ac yn craffu ar ganlyniadau.

Gellir gweld gwybodaeth am fonitro a chydraddoldeb o flynyddoedd blaenorol isod:

 

Heddlu De Cymru Adroddiad Ar Y Bwlch Cyflog Rhwng Y Rhywiau 2020

Bydd y Strategaeth Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-2027 newydd ar gael cyn diwedd 2023.

Neddf Cydraddoldeb

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n gwneud ymdrech i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio â ni neu’n ymwneud â ni’n cael eu trin yn deg a chyda parch ac nad ydynt yn dioddef camwahaniaethu ar sail unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010:

•    Oedran
•    Anabledd (gan gynnwys anableddau corfforol a meddyliol, nam ar y synhwyrau ac anableddau dysgu)
•    Ailbennu Rhywedd
•    Priodas neu Bartneriaeth Sifil
•    Beichiogrwydd a Mamolaeth
•    Hil (yn cynnwys hil, lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig)
•    Crefydd a chred
•    Rhyw
•    Cyfeiriadedd Rhywiol

Wrth gyflawni ei swyddogaethau mae’r Comisiynydd a Heddlu De Cymru yn  dalu sylw priodol i’r angen i wneud y canlynol:

1)    Dileu camwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall mae’r Ddeddf yn ei wahardd neu sy’n waharddedig dani;

2)    Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno;

3)    Hybu perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.

Mae’r Ddyletswydd Gyffredinol yn gymwys ar gyfer pob nodwedd warchodedig heblaw priodas a phartneriaeth sifil.  Fodd bynnag, erys dyletswydd i ddileu camwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar gyfer y nodwedd honno.

Cydraddoldeb a Chynhwysiant - Ein Blaenoriaethau

Dyma rai o'r meysydd blaenoriaeth eraill y mae'r Comisiynydd a'i dîm yn canolbwyntio arnynt o ran cydraddoldeb a chynhwysiant:

  • Annog amrywiaeth i Heddlu De Cymru
  • Annog cofnodi troseddau casineb a boddhad dioddefwyr
  • Monitro stopio'r chwiliad defnyddio a dweud wrth y cyhoedd am stopio chwilio
  • Annog defnydd o gynllun cadw'n ddiogel Cymru (ar gyfer pobl ag anghenion cyfathrebu penodol)
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd                                                                     

Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru

Ar 8 Medi 2022, Cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Mae'r cynllun yn amlinellu penderfyniad partneriaid ledled Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu unrhyw hiliaeth yn y system cyfiawnder yng Nghymru 

Lawrlwythwch y Cynllun yma.

Safonau Cymraeg

Yng  Nghymru, rydym hefyd yn cydnabod yr Iaith Gymraeg fel maes cydraddoldeb. I gael rhagor o wybodaeth am ein dyletswyddau iaith Gymraeg, cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar gydraddoldeb a chynhwysiant, cysylltwch â Charlotte Amoss (charlotte.amoss@south-wales.police.uk neu 01656 869366).

Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >