Gall y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl gomisiynu adolygiad thematig unrhyw adeg y nodir yr angen am hynny. Gall swyddogion arweiniol eraill, er enghraifft, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Cynorthwyol neu Ddirprwy Brif Gwnstabl, hefyd nodi bod angen adolygiad, pryd y bydd angen i’r Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd gytuno ar gylch gorchwyl yr adolygiad yn y Bwrdd Strategol.
Mae adolygiadau thematig Heddlu De Cymru’n canolbwyntio ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb neu sy’n bwysig yn strategol, a ddewiswyd oherwydd bod angen gwella dealltwriaeth o’r pwnc neu archwilio materion perfformiad yn fanylach. Maent yn gweithredu fel dull craffu i ystyried arferion cyfredol gan nodi arferion da a meysydd lle mae angen gwella.
Mae adolygiadau thematig yn eu hanfod yn fater o weithio ar y cyd rhwng timau’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl a dylid bob amser eu trin felly.
Rhan allweddol o’r broses adolygu thematig yw’r cyfle i gynnwys cyflogeion mewnol yn y maes yn ogystal ag arbenigwyr allanol ar y pwnc a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r adolygiadau’n cynnig i’r Comisiynydd, y Prif Gwnstabl a’u timau arweiniol sail i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghyd â fframwaith rheoli perfformiad mwy effeithiol a’r gallu i reoli cyflawni amcanion y Cynllun Heddlu a Gostwng Troseddu’n effeithiol.
Mae pum cam i’r broses adolygu thematig:
1. cam nodi cwmpas a datblygu cysylltiadau
2. cam casglu data
3. cam dadansoddi data cychwynnol
4. cam cyfaill beriniadol
5. cam adroddiad terfynol
Pan fydd proses adolygu thematig wedi’i chwblhau, cytunir ar y casgliadau a’r argymhellion ym Mwrdd Strategol y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl. Yna byddir yn cytuno ar gynllun gweithredu neu strategaeth ar gyfer mynd ymlaen â’r maes gwaith ar y cyd.
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >