Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Ebrill '21)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Helpwch Ni i Helpu Chi Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol a Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2019–2020 Lleihau Troseddu ac Aildroseddu yn y Grŵp Oedran 18-25 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Dinasyddion ym maes Plismona (Gwirfoddoli) Dyfodol Tîm Polisi a PhartneriaethCynlluniau Ymweld i Wirfoddolwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld i wirfoddolwyr. Nod y cynlluniau yw rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y ffordd y mae'r heddlu yn cyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd.
Yn Ne Cymru, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd statudol a'r cynllun ymweld ar gyfer lles anifeiliaid anstatudol. Mae'r Comisiynydd yn penodi gwirfoddolwyr o'r gymuned lleol ac yn eu hyfforddi i ymweld â gorsafoedd yr heddlu, a safle cŵn a cheffylau'r heddlu yn ddirybudd.
Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
“Mae ymweliadau annibynnol â dalfeydd yn system hirsefydledig lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu i weld sut y caiff y carcharorion eu trin a'r amodau yno, ac i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae'n cynnig diogelwch a chyfrinachedd i garcharorion a'r heddlu, ynghyd â sicrwydd i'r gymuned yn gyffredinol” (Cod Ymarfer ar Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd, 2013).
Gydag oddeutu 26,000 o arestiadau'n arwain at gadw unigolion yn y ddalfa yn Ne Cymru yn ystod 2019/20, mae'n oruchwyliaeth gymunedol effeithiol o ddalfeydd yr heddlu ac yn un agwedd ar rôl graffu a goruchwylio gyffredinol y Comisiynydd.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid
Fel rhan o'r Cynllun Ymweld ar gyfer Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn adrodd ar les cŵn a cheffylau’r heddlu drwy ymweld â safle cŵn a cheffylau Heddlu De Cymru bob pythefnos.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid.
Os hoffech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ymweld i wirfoddolwyr, anfonwch e-bost atom yn volunteer@south-wales.pnn.police.uk.
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi tystiolaeth feddygol gymhellol pam na allwn lacio'r rheolau a gadael i bawb wneud fel y mynnant. Mae'r penwy…
Gweld mwy >Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn …
Gweld mwy >Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a st…
Gweld mwy >