Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Ebrill '21)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Sut, pam a phryd y dechreuodd y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd?
Sefydlwyd y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn 1984 ar sail anstatudol.
Ar ôl cyfnod o anhrefn sifil yn rhai o brif ddinasoedd Lloegr yn 1981 ac, yn benodol, yr anhrefn ddifrifol yn Brixton, comisiynwyd yr Arglwydd Scarman gan y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad brys i'r digwyddiadau a llunio adroddiad gydag argymhellion.
Cyflwynwyd y cynllun, y cyfeiriwyd ato'n wreiddiol fel cynllun ymweliadau lleyg, mewn ymateb i un o'r nifer o argymhellion a wnaed yn Adroddiad Scarman. Fel rhan o'i argymhellion, roedd yr Arglwydd Scarman yn cefnogi system lle y gallai aelodau o gymunedau lleol gynnal gwiriadau ar hap i archwilio'r ffordd roedd yr heddlu'n cadw pobl yn y ddalfa.
Yn 2003, daeth ymweliadau â dalfeydd yn ofyniad statudol a chyhoeddodd y Swyddfa Gartref God Ymarfer y mae cyrff plismona lleol ac ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn rhoi sylw iddo wrth gyflawni eu swyddogaethau perthnasol.
Pam y mae angen i ni oruchwylio'r heddlu?
Mae ymweliadau â dalfeydd yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y ddalfa leol yn ddiogel ac yn cyfrannu at rwymedigaethau hawliau dynol y DU ar lefel genedlaethol. Mae heddluoedd yn croesawu rôl ymwelwyr â dalfeydd sy'n rhoi cipolwg annibynnol iddynt ar eu dalfeydd, a all helpu i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir ganddynt.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Rt Hon Alun Michael:
“Mae'r ffordd y caiff pobl sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu eu trin yn brawf arwyddocaol o gymdeithas wâr. Dros y degawdau, mae ein safonau a'n disgwyliadau wedi dod yn fwyfwy heriol ac yn fwy trugarog. Felly, mae'n bwysig bod ymddygiad ein staff yn adlewyrchu'r safonau a'r disgwyliadau hyn. Yn aml iawn, mae'n bosibl y bydd yr unigolyn yn y ddalfa hefyd wedi dioddef mewn rhyw ffordd, neu efallai y bydd angen ymyriad a chymorth arno, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein staff yn ymwybodol o'r materion hyn er mwyn torri'r cylch niwed ac atal unrhyw droseddu pellach. Mae craffu ar wasanaeth y ddalfa yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein staff yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir, ac y caiff safonau gwael neu achosion o gamymddwyn eu herio. Er nad yw rôl Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd yn un hawdd, mae'n un hanfodol. Mae'r rôl hon yn gofyn am ddealltwriaeth gadarn o'n rhwymedigaethau a'r prosesau sydd gennym er mwyn eu cyflawni, ynghyd ag amynedd a safonau personol uchel i sicrhau y caiff unrhyw un sy'n cael ei gadw yn y ddalfa ei drin yn gywir ac yn briodol.”
Yr Arolygydd Michael Kings a'r Arolygydd Mark Simmonds, Heddlu De Cymru:
“Mae'r cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn Ne Cymru yn cael ei groesawu fel ffordd o oruchwylio ein hadran gwasanaethau'r ddalfa. Mae'n galluogi aelodau o'n cymuned i roi adborth hanfodol ar y ffordd rydym yn trin ein carcharorion.
Mae ymwelwyr â dalfeydd yn rhoi o'u hamser i gyflawni'r rôl bwysig iawn hon ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu gwybodaeth a'u harbenigedd. Mae eu hadborth yn ein galluogi i gadarnhau bod yr ystod o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amgylchedd y ddalfa yn cael eu dilyn a bod carcharorion yn cael eu trin yn deg.
Ymwelwyr â Dalfeydd
Ar hyn o bryd, darperir y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn Ne Cymru gan 27 o ymwelwyr gwirfoddol wedi'u rhannu rhwng dau banel – panel y Dwyrain a phanel y Gorllewin.
Yr hyn y mae Ymwelwyr â Dalfeydd yn ei wneud
O leiaf unwaith yr wythnos, bydd parau o ymwelwyr gwirfoddol o'r gymuned leol yn cyrraedd dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd ac yn cael mynediad i ardal y ddalfa ar unwaith. Byddant yn edrych ar gyflwr y celloedd a'r ddalfa, ac yn siarad â charcharorion i sicrhau bod eu hawliau, eu lles a'u hurddas yn cael eu cynnal. Bydd yr ymwelwyr yn cwblhau adroddiad ysgrifenedig ar ôl pob ymweliad i ddarparu cofnod o'u harsylwadau ac unrhyw bryderon.
Caiff unrhyw faterion a nodir eu datrys gyda Rhingyll y Ddalfa ar adeg yr ymweliad a'u hadrodd i dîm y Comisiynydd i'w trafod mewn cyfarfodydd chwarterol o'r panel.
Ni fydd yr ymwelwyr yn ystyried pam mae carcharorion yn y ddalfa na phwy ydynt, a rhaid iddynt barchu cyfrinachedd bob amser.
Cymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd
Mae'r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (“ICVA”) yn sefydliad aelodaeth a ariennir gan y Swyddfa Gartref, yr Awdurdod Plismona a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a sefydlwyd i arwain, cefnogi a chynrychioli cynlluniau a arweinir gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac Awdurdodau Plismona.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn aelod o'r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA). Mae'r ICVA yn gweithio'n agos gyda chynlluniau lleol, y Swyddfa Gartref a sefydliadau cenedlaethol ac unigolion eraill sy'n canolbwyntio ar sicrhau diogelwch ac arferion da wrth gadw carcharorion.
Gallwch ddysgu mwy am ICVA ar wefan y Gymdeithas.
O ran sicrhau ansawdd, nodwyd bod cynllun De Cymru yn gynllun ARIAN! Gallwch ddysgu mwy yma.
Dolenni Defnyddiol:
Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a st…
Gweld mwy >Mae Panel Heddlu a Throseddu De Cymru wedi cytuno heddiw i bennu praesept yr heddlu a fydd yn sicrhau y bydd modd i Heddlu De Cymru fynd i'r afael â t…
Gweld mwy >Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >