Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Ebrill '21)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Helpwch Ni i Helpu Chi Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol a Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2019–2020 Lleihau Troseddu ac Aildroseddu yn y Grŵp Oedran 18-25 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Dinasyddion ym maes Plismona (Gwirfoddoli) DyfodolYn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn cydnabod eu cyfrifoldeb fel cyflogwyr i fod yn ymwybodol o’r potensial ar gyfer achosion o gaethwasiaeth fodern ac i roi gwybod am achosion neu bryderon o’r fath i’r cyrff perthnasol.
Beth yw Caethwasiaeth Fodern?
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn ymyrryd â hawliau dynol sylfaenol. Mae’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, camfanteisio rhywiol, llafur gorfodol a masnachu mewn pobl, a’r hyn sy’n gyffredin rhyngddynt yw bod rhywun yn amddifadu unigolyn o’i ryddid er mwyn camfanteisio arno er budd personol neu fasnachol.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn ymrwymedig i sicrhau nad oes unrhyw weithgarwch caethwasiaeth fodern na masnachu mewn pobl yng nghadwyni cyflenwi’r heddlu neu mewn unrhyw ran o’r busnes. Mae polisïau a gweithdrefnau’r heddlu yn dangos ein hymrwymiad i weithredu’n foesegol a gydag uniondeb ym mhob un o’i gydberthnasau busnes.
Yn 2017, ymrwymodd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae Heddlu De Cymru yn gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael ag arferion anfoesegol ac anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi ac mae wedi llunio Cynllun Gweithredu mewn perthynas â’r ymrwymiadau yn y Cod.
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn rhoi’r Cod ar waith ym mhob rhan o’r busnes gan ganolbwyntio ar bedwar maes:
Mae’r Strategaeth Caffael ar y Cyd 2015-2020 yn cynnwys ffocws cynyddol ar ddarparu llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy’r ffordd y mae’r heddlu yn rheoli ei weithgarwch caffael.
Lle y bo’n briodol, bydd yr Heddlu, drwy ei brosesau tendro, yn gofyn i gyflenwyr a darpar gyflenwyr sicrhau nad ydynt yn ymwybodol o unrhyw un o’r dulliau caethwasiaeth fodern uchod yn eu sefydliadau neu gadwyni cyflenwi. Bydd yr Heddlu yn disgwyl i’r cyflenwyr hynny gymryd cyfrifoldeb i geisio sicrwydd tebyg o’u cadwyni cyflenwi eu hunain.
Mae Gweithrediaeth Gaffael Genedlaethol yr Heddlu wedi cytuno i sefydlu grŵp cenedlaethol, wedi’i gadeirio gan Arweinydd Caffael Strategol heddluoedd De Cymru, er mwyn rhannu arfer da ar draws sector yr heddlu a llunio cynllun cenedlaethol i archwilio cadwyni cyflenwi ym mhob rhan o wasanaeth yr heddlu.
Hyfforddiant
Mae staff Caffael Strategol wedi cwblhau hyfforddiant ‘Caffael a Chyflenwi Moesegol’ ar-lein y Sefydliad Siartredig ar gyfer Prynu a Chyflenwi a chaiff hwn ei loywi bob blwyddyn. Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i bob aelod o staff wylio fideo Llywodraeth Cymru am y Cod. Bydd staff sy’n ymwneud â chaffael a/neu recriwtio yn ymgymryd â hyfforddiant perthnasol drwy fodiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru/y GIG.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn cymhwyso cyfraddau cyflog byw y Living Wage Foundation ac mae heddluoedd Cymru wedi cytuno i ddatblygu Polisi Chwythu’r Chwiban Cymru Gyfan gan gyfeirio’n benodol at y Cod Ymarfer.
Mae ein Hamcanion ar gyfer 2019-2020 wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu
Mae gan y cyhoedd a’r staff yr un cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o achosion posibl o gaethwasiaeth fodern neu fusnes sy’n defnyddio llafur gorfodol. Os bydd gennych unrhyw bryderon o’r fath, cysylltwch ag un o’r cyrff canlynol:-
Mae’r Datganiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl. Caiff ei adolygu a’i ddiweddaru’n flynyddol.
Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a st…
Gweld mwy >Mae Panel Heddlu a Throseddu De Cymru wedi cytuno heddiw i bennu praesept yr heddlu a fydd yn sicrhau y bydd modd i Heddlu De Cymru fynd i'r afael â t…
Gweld mwy >Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >