Resize Text:

Switch to:

Helpwch Ni i Helpu Chi

Os ydych wedi dioddef trais, ni waeth pwy ydych chi, sut na phryd y cawsoch eich niweidio, mae Heddlu De Cymru yma i’ch helpu chi.

Bydd staff arbenigol yn eich cefnogi drwy:

  • Wrando ar eich profiad
  • Esbonio’r holl opsiynau sydd ar gael i chi
  • Gweithio gyda chi i gytuno ar yr hyn sy’n digwydd nesaf
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Nid yw cysylltu â’r heddlu yn eich ymrwymo i gymryd unrhyw gamau pellach.

Fodd bynnag, drwy roi gwybod am yr hyn ddigwyddodd i chi, efallai y gallwch ei atal rhag digwydd eto neu atal rhywun arall rhag cael ei niweidio.

Os ydych wedi cael eich niweidio neu wedi gweld rhywun arall yn cael ei niweidio, ffoniwch 101 unrhyw bryd. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.

Ble y gallwch gael help a chefnogaeth?

Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn wasanaeth lleol a gaiff ei redeg gan yr elusen genedlaethol ac annibynnol, Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae ei staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cynnig help a chefnogaeth i unrhyw y mae trosedd wedi effeithio arno.

Gallant hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill yn yr ardal a all eich helpu.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar: 0300 303 0161
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 8am – 8pm
Dydd Sadwrn: 9am – 5pm
Ewch i’n gwefan: www.ffocwsdioddefwyrdecymru.org.uk
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol y tu allan i’n horiau gweithredu, sydd ar gael 24 awr: 0808 16 89 111

Digwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Arweinwyr yn canmol gwasanaethau sy'n trawsnewid bywydau unigolion sy'n mynd i m…

Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…

Gweld mwy >

Datganiad y Comisiynydd yn dilyn marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan

“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …

Gweld mwy >

Un plentyn yn mynd ar goll bob awr yng Nghymru, wrth i Gomisiynydd yr Heddlu alw…

Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…

Gweld mwy >