Cyngor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol Helpwch Ni i Helpu Chi Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol a Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2019–2020 Lleihau Troseddu ac Aildroseddu yn y Grŵp Oedran 18-25 Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar Dioddefwyr Troseddau Trais yn Erbyn Menywod Genethod Dinasyddion ym maes Plismona (Gwirfoddoli) DyfodolMae Lleihau Troseddu ac Aildroseddu ymysg y grŵp oedran 18-25 yn flaenoriaeth allweddol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Cydnabyddir yn eang bod pobl yn y grŵp oedran hwn yn gyfrifol am nifer anghymesur o droseddau a gofnodir, tra bod aildroseddu ymysg y grŵp o dan 18 oed wedi gostwng yn sylweddol.
Bydd y prosiect hwn felly yn ceisio adeiladu ar y model llwyddiannus a ddefnyddir ledled De Cymru gan y Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, lle mae ymyrraeth holistaidd wedi’i ymgorffori i mewn i arfer.
Nodau cyffredin y prosiect hwn yw:
Drwy ymestyn llwyddiant y Timau Troseddau Ieuenctid i’r grŵp oedran 18-25, bydd y prosiect hwn yn ceisio nodi datrysiadau a fydd yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc a’u grymuso i gymryd rheolaeth o’u bywydau ac i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau. Bydd gwella’r llwybr pontio rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau oedolion yn ffactor allweddol wrth atal aildroseddu a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau.
Bydd y prosiect hefyd yn ceisio nodi pobl ifanc y tybir eu bod ‘yn wynebu risg o aildroseddu’ a gweithio gyda hwy. Byddwn yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ac ymyriadau yn y gymuned, ac yn gweithio ochr yn ochr gydag asiantaethau statudol ac anstatudol i nodi gwasanaethau cynaliadwy, fel y gellir eu dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol cyn gynted â phosibl. Byddwn hefyd yn ceisio rhoi’r sgiliau ac adnoddau ychwanegol i staff gweithredol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyflym ac effeithiol, ac i godi eu hyder wrth ddelio ag oedolion ifanc.
Drwy gynnwys dioddefwyr drwy gydol y broses, yn unol â Chod Ymarfer i Ddioddefwyr, efallai gellir delio â throseddwyr y tu allan i achosion llys. Bydd yr atebion cymunedol hyn yn galluogi’r heddlu i dargedu adnoddau yn fwy effeithiol, ac mae’r prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i ni ddysgu o ‘Ranbarthau Adferol’ eraill ledled y DU, ac atgynhyrchu’r arfer gorau yn Ne Cymru.
Yn yr un modd, mae’r prosiect yn ceisio codi hyder y cyhoedd o ran y grŵp oedran hwn. Y nod yw lleihau’r ofn a’r stigma sy’n gyffredin ym meddwl y cyhoedd ynglŷn ag oedolion ifanc. Drwy godi ymwybyddiaeth ac adrodd positif, y gobaith yw y bydd y cyhoedd yn deall y grŵp oedran 18-25 yn well ac yn eu derbyn yn well.
Bydd y tîm prosiect yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid allweddol i gyflawni’r nodau, sy’n cynnwys: Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid; Cyfnod ar brawf; Cwmni Adsefydlu Cymunedol; Gwasanaeth Llys Ei Mawrhydi; NSPCC; Prifysgolion; Canolfan Byd Gwaith; Gyrfa Cymru; Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau; Asiantaethau’r Sector Gwirfoddol; Tai; Gwasanaethau Ieuenctid a Chefnogi Pobl.
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >