res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Mynd i’r afael â Throseddau Treisgar

Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd yn cwmpasu chwe phrif faes â blaenoriaeth ar gyfer plismona dros y pum mlynedd nesaf. Er bod gorgyffwrdd clir rhwng pob un o’r meysydd, caiff y gwaith o fynd i’r afael â throseddau treisgar ei gwmpasu gan Flaenoriaeth 1 ar hyn o bryd, sef ‘Byddwn yn gostwng ac yn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a’u cymunedau’.

Mae’r ffrwd waith Troseddau Treisgar yn gorgyffwrdd â phartneriaid Heddlu De Cymru, ac yn rhan sylweddol o waith Byrddau Cynllunio Ardal, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Integredig Unigol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol o fewn ffiniau’r heddlu.

Mae gweithio gyda’n partneriaid i ostwng troseddu treisgar yn hollbwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ni allwn fynd i’r afael â’r broblem hon ar ein pen ein hunain.

Mae’r dull gweithredu hwn yn cynnwys tair thema strategol sy’n allweddol er mwyn gostwng troseddu treisgar, sef:

  • Deall trais yn gyfannol
  • Ymyrryd mewn ffordd effeithlon ac effeithiol
  • Atal trais drwy ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y canlyniadau hyn a’n gwaith gyda phartneriaid, cliciwch yma.Darllenwch am y ffordd mae Comisiynwyr yn helpu i fynd i'r afael â Thrais Difrifol ledled Cymru a Lloegr drwy bartneriaeth ac arloesedd, gan gynnwys rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn lleol i greu De Cymru fwy diogel, yn yr adroddiad 'Ffocws' hwn

Daniel Jones, Arweinydd Polisi Strategol ar gyfer Gostwng Trais ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n arwain y prosiect hwn. Cysylltwch ag ef yn Daniel.jones10@south-wales.police.uk

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn Ymuno â Dathliadau 20 Mlynedd Kaleidoscope

Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…

Gweld mwy >

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd…

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…

Gweld mwy >

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…

Gweld mwy >