res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Trais yn Erbyn Menywod Genethod

Trosolwg

Mae Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn broblem ddifrifol mewn cymdeithas heddiw na allwn ei derbyn. Gall yr effaith fod yn ddinistriol, yn hirdymor ac mewn rhai achosion, yn angheuol i fenywod a merched, gan effeithio ar deuluoedd a chymunedau cyfan. Mae'r Prif Gwnstabl a'r Comisiynydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ledled ardal Heddlu De Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn cynnwys cynyddu hyder dioddefwyr i roi gwybod am drais yn eu herbyn, lleihau erledigaeth dro ar ôl tro a chreu dealltwriaeth well o'r angen i gymryd camau cadarnhaol wrth ymateb i'r drosedd hon.

Mae trais yn erbyn menywod yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu, a thrais ar sail “anrhydedd” fel y'i gelwir. Y gwirionedd pur yw bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef camdriniaeth ddomestig na dynion, sy'n cyferbynnu â phob math arall o droseddau treisgar lle mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr. Yn ystod 2019/20 rhoddwyd gwybod am 35,687 o achosion o gam-drin domestig yn Ne Cymru. O'r rhain, dioddefwr benywaidd oedd mewn 23,443 o'r achosion, ac o'r rhain, cofnodwyd 13,063 ohonynt fel troseddau.

 

Gyda Phartneriaid a'r Prif Gwnstabl, yn ddiweddar rydym wedi datblygu Mynd i'r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

Caiff Trais yn Erbyn Menywod a Merched ei ystyried fel blaenoriaeth yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar 4 prif faes:

  • Gwell Cydweithio
  • Atal ac Ymyrryd yn Gynnar
  • Diogelu
  • Cyflawnwyr

Adroddiad Blynyddol

Rydym wedi gweld llwyddiant drwy ariannu Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig/Rhywiol, sydd bellach yn eu swyddi ledled De Cymru, a chyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder £12 miliwn ychwanegol i ariannu'r gwasanaethau hyn rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2023. Mae ein cyllid hefyd yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Diweddariad COVID-19

  • Mae adolygiad o effaith COVID-19 ar Wasanaethau (De Cymru) wedi cael ei lunio. Mae hyn wedi llywio'r asesiad o anghenion ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder a nodi meysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach os bydd pandemig arall yn digwydd.  Mae hon yn ddogfen fyw ac mae wrthi'n cael ei diweddaru er mwyn cadarnhau'r datblygiadau diweddaraf.

 

Cyllid Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr Lleol – £1,447,965

Cyllid a ddyrannwyd ar gyfer 2021/2022:

Cyllid Cam-drin Plant yn Rhywiol (Wedi'i Neilltuo) – £107,870

Cyllid Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol – £91,928

Arian ychwanegol Cymorth Cam-drin Domestig – £318,847

Gwasanaethau Cymorth Trais Rhywiol – £109,827

Datganiadau o Ddiddordeb Cyllid i Ddioddefwyr – Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig £290,923, Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol £40,089

Cronfa Cyflawnwyr y Swyddfa Gartref – £200,000

 

Ar beth rydym yn gweithio?

  • Mae gwaith wedi bod yn parhau gyda Ffocws Dioddefwyr De Cymru, Heddlu De Cymru a gwasanaethau arbenigol i adolygu proses taith atgyfeirio'r dioddefwr a nodi unrhyw fylchau er mwyn creu llwybr atgyfeirio symlach i ddioddefwyr
  • Mae Drive (ein rhaglen sy'n gweithio gyda chyflawnwyr) wedi cael ei chyflwyno yn y saith Awdurdod Lleol yn Ne Cymru ac mae'n llwyr weithredol ac wedi'i hintegreiddio o fewn gwasanaethau ar hyn o bryd. Mae aelodaeth Grŵp Llywodraethu Drive De Cymru wedi cael ei hymestyn i gynnwys y pedair ardal Awdurdod Lleol newydd.
  • Ar 1 Chwefror 2021, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyllid ychwanegol am flwyddyn i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais domestig a thrais rhywiol. Mae'r cyllid yn ychwanegol i'r grant dioddefwyr craidd ac mae ar gael o 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022. Dyrannwyd £318,847 i Dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer Cam-drin Domestig a £109,827 ar gyfer Trais Rhywiol.
  • Rydym wrthi'n arwain gwaith ar Safleoedd Tystiolaeth o Bell sy'n rhoi llety i ddioddefwyr a goroeswyr er mwyn rhoi tystiolaeth yn ystod treial, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
  • Rydym wrthi'n cydweithio â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Tarian a'r Cydlynydd MARAC Caethwasiaeth Fodern Cenedlaethol i gyflwyno cais am gyllid i'r Rhwydwaith Gwrth-fasnachu a Chaethwasiaeth Fodern Cenedlaethol. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i lunio cyfres o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth gyda'r cymunedau Mwslimaidd yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Bydd y gwaith o godi ymwybyddiaeth yn benodol i adnabod yr arwyddion a'r risgiau sy'n ymwneud â Chaethwasanaeth Domestig.

 

Data 2020/2021

Caerdydd a'r Fro

Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr

Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

DRIVE: Cyflawnwyr Niwed Sylweddol a Gefnogwyd

865

977

154

DRIVE: Dioddefwyr/Goroeswyr a Gefnogwyd

926

1155

167

DRIVE: Plant Cysylltiedig

1598

1790

236

 

Data 2020/2021

Cyfansymiau

Atgyfeiriadau Cam-drin Domestig

11,028

Dioddefwyr/Goroeswyr Camdriniaeth Ddomestig a Gefnogwyd

8,315

Atgyfeiriadau Trais Rhywiol

4,186

Dioddefwyr/Goroeswyr Trais Rhywiol a Gefnogwyd

7,177

Atgyfeiriadau Cam-drin Plant yn Rhywiol

1,395

Dioddefwyr/Goroeswyr Cam-drin Plant yn Rhywiol a Gefnogwyd

2,909

 

Cael Eich Clywed  Mewn perygl, angen yr heddlu, ond yn methu siarad?   1. Deialwch 999  2. Gwrandewch ar y cwestiynau gan y cysylltydd 999   3. Atebwch trwy besychu neu daro'r set law os gallwch   4. Os cewch eich ysgogi, gwasgwch 55. Mae hyn yn rhoi gwybod i'r cysylltydd galwad 999 ei fod yn argyfwng gwirioneddol a bydd yn eich rhoi trwodd i'r heddlu

 

logo llinell gymorth Byw Heb Ofn

 

Logo Respect - Dynion a menywod yn gweithio gyda'i gilydd i ddod â thrais domestig i ben

 

 

 

Logo Atal Y Fro - Cam-drin domestig yn torri'r tawelwch
  • 01446 744 755 (24 hours)
Logo New Pathways

 

  • 01685 379 310
Logo Cymorth i Ferched Cymru - rhoi merched a phlant yn gyntaf

  

  • 02920 541 551
 Logo Merthyr Tudful Mwy Diogel

 

  • 01685 353 999
Logo Calan DVS - darparu noddfa, ysbrydoli newid

 

  • Bridgend - 01656 766 139 
  • Neath - 01639 633 580 
Logo Cardiff Women's Aid
  • 02920 460 566
Logo Women's Aid RCT

  

  • 01443 400 791
Logo Thrive Women's Aid
  •  01639 894 864
Logo Swansea Women's Aid
  • 01792 644 683
Logo BAWSO darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau BME
  • 0800 731 8147
Logo Ffocws Dioddefwyr De Cymru
  • 0300 30 30 161
Logo Henna Foundation
  • 02920 496 920
 Logo y Dyn Project

Support service for male victims of domestic violence and abuse 

  • 0808 801 0321

Ein tîm

Paula Hardy – Arweinydd Strategol

Michelle Cooper – Swyddog Polisi

Hannah Evans-Price – Swyddog Polisi

Rosie Stride – Cynorthwyydd Gweinyddol

 

Gyda Phartneriaid a'r Prif Gwnstabl, rydym wedi datblygu Mynd i'r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

 

 

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cael ei chydnabod am e…

Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…

Gweld mwy >

Recriwtiwyd dros 850 o swyddogion newydd i Tim HDC yn ystod y tair blynedd diwet…

Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…

Gweld mwy >

Mae Emma Wools yn esbonio sut yn union y mae'r Glasbrint ar gyfer Menywod yn ‘hy…

#HyrwyddoTegwch #DRhM2023

Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…

Gweld mwy >