Yn dilyn lansio Cynllun Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Genethod De Cymru ym mis Mehefin 2014, mae Heddlu De Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd bellach wedi ennill eu statws Rhuban Gwyn ar y cyd cyntaf.
Nod cynllun y Rhuban Gwyn yw rhoi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a genethod drwy newid agweddau ac ymddygiad sy’n arwain at weithredu felly ac yn ei borthi a hybu’r swyddogaeth gadarnhaol dynion mewn atal hynny.
Mae Ymgyrch Rhuban Gwyn y DU wedi cydnabod ymrwymiad ar y cyd y Prif Gwnstabl, Peter Vaughan, a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael, i fynd i’r afael â phroblem trais yn erbyn menywod. Gallant ddefnyddio eu swyddogaeth a’u profiad fel llysgenhadon i lefaru ac i weithredu i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod, gan addo codi ymwybyddiaeth o fater trais yn erbyn menywod.
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >