res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Adolygiad Thematig Trais yn erbyn Menywod a Genethod

Mae ‘Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Genethod’ yn flaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Heddlu a Gostwng Troseddu ar gyfer De Cymru. Er cydnabod y gallai’r mathau hyn o gam-drin a thrais hefyd effeithio ar ddynion a bechgyn, mae’n parhau’n wir bod menywod yn dioddef yn anghymesur o safbwynt nifer y digwyddiadau a’u difrifoldeb.

Canfu Arolygiad Troseddu Prydain fod ymron i un o bob tair menyw wedi dioddef cam-drin domestig rywbryd yn ystod eu bywydau a bod un o bob pum menyw wedi dioddef rhyw fath o drais rhywiol.    Ymhellach, menywod sydd i gyfrif am 89% o’r rhai sydd wedi profi pedwar neu fwy o ddigwyddiadau trais domestig.

Dechreuodd yr adolygiad thematig Trais yn erbyn Menywod a Genethod fis Gorffennaf 2013 a pharhaodd dros bum mis.  Dyma’r broses adolygu thematig gyntaf i Heddlu De Cymru ei chyflawni.

Roedd y broses yn cynnwys:

  • Digwyddiad Ymgysylltu â Phartneriaid Cam-drin yn y Cartref gydag ymarferwyr mewnol ac allanol sy’n gweithio ar draws De Cymru. Cadeiriwyd gan y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu.
  • Cyfarfod o gwmpas y bwrdd â Phrif Weithredwyr Cymorth i Fenywod Cymru a Phrif Weithredwyr Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol, gyda’r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol ar gyfer Troseddau Arbenigol yn cyd-gadeirio.
  • Cyfarfod â dioddefwyr cam-drin domestig a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio â hwy.
  • Sesiwn ar drais yn erbyn menywod a genethod gydag uwch arweinwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio o fewn y sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Archwilio’r data a’r wybodaeth fewnol ar ddulliau Heddlu De Cymru o ymdrin â thrais yn erbyn menywod a genethod.
  • Cyfarfod â ‘chyfeillion beirniadol’ (arbenigwyr ym maes trais yn erbyn menywod a genethod) i drafod ein sefyllfa, ein hargymhellion a’n sialensiau dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu.Roedd y trafodaethau â phartneriaid ac arbenigwyr allanol ar sail prif amcanion y Cynllun Heddlu aGostwng Troseddu, sef:
    • Gostwng lefelau diffyg adrodd
    • Gostwng difrifoldeb trais yn erbyn menywod a genethod
    • Gweithio’n fwy effeithiol â phartneriaid
    • Gwella cymorth i ddioddefwyr
    • Gwella dadansoddi materion ‘cuddiedig’ parthed trais yn erbyn menywod a genethod

Roedd y broses yn amlygu’r gwaith cadarnhaol mae Heddlu De Cymru’n parhau i’w wneud a pharch uchel yr asiantaethau partner i waith yr heddlu.  Dangosai ymrwymiad gwirioneddol uwch swyddogion ac aelodau staff Heddlu De Cymru i fod yn agored i’w herio er mwyn gwella, lle bynnag y gellid, er budd dioddefwyr.  Mae’r adolygiad hefyd wedi amlygu pa mor gymhleth yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddioddefwyr mathau mor ddifrifol o gam-drin a thrais.

Roedd y canfyddiadau cyffredinol yn amlygu’r prif faterion y dylai Heddlu De Cymru eu hystyried ar gyfer y dyfodol er mwyn cyflawni amcanion blaenoriaeth y Comisiynydd o fewn y Cynllun Heddlu a Gostwng Troseddu o ‘fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a genethod’. Mae ein hadolygiad thematig cynhwysfawr ar drais yn erbyn menywod a genethod o fewn Heddlu De Cymru wedi arwain at ddatblygu’r cynllun ar y cyd hwn. Rydym yn awyddus i gyflawni’n gadarnhaol y camau a nodir yn y cynllun er mwyn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a genethod a chynnig yr ymateb gorau posibl i ddioddefwyr.

I weld y Cynllun Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Genethod, gweler isod: (The South Wales Police Plan for Tackling Violence against Women and Girls 2014 -17)

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn Ymuno â Dathliadau 20 Mlynedd Kaleidoscope

Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…

Gweld mwy >

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd…

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…

Gweld mwy >

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…

Gweld mwy >