res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

IRIS (Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch)

Lansiodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddyfodiad IRIS (Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch) gyda Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Cynllun hyfforddi ac atgyfeirio cam-drin domestig a thrais rhywiol yn seiliedig ar feddygfeydd teulu yw IRIS. Dewiswyd yn ofalus 25 meddygfa ar draws Caerdydd a’r Fro i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn.

 

Mae adnabod trais a cham-drin domestig yn gynnar yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac i’r Comisiynydd, a darganfuwyd mai’r gwasanaethau iechyd yw’r ddolen bwysicaf i sicrhau hynny.

Bydd Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd yn ariannu partneriaid ym maes iechyd a phartneriaid arbenigol lleol i gydweithio i gyflwyno rhaglen IRIS dros y ddwy flynedd nesaf. Mae patrwm Caerdydd a’r Fro yn dibynnu ar ddau eiriolwr-addysgwr a fydd yn gweithio ar draws 25 o feddygfeydd ledled yr ardal.

Gweithwyr arbenigol ym maes trais a cham-drin domestig yw’r eiriolwyr-addysgwyr sydd wedi eu cysylltu â’r meddygfeydd ac yn gweithio o BAWSO a Chymorth i Fenywod Caerdydd. Byddant yn cynnig hyfforddiant i dimau yn y meddygfeydd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr hirdymor a hwy fydd y bobl y byddir yn atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol atynt ar gyfer eirioli arbenigol.

Rydym yn hybu adnabod cynharach ac atgyfeirio pobl yn gynt at gymorth priodol gan y gwyddom y bydd hynny’n effeithio ar y galw am wasanaeth yr heddlu ac yn rhwystro dioddef pellach. Bydd gweithredu.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn Ymuno â Dathliadau 20 Mlynedd Kaleidoscope

Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…

Gweld mwy >

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd…

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…

Gweld mwy >

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…

Gweld mwy >