O 1 Ebrill 2018, bydd consortiwm lleol yn darparu gwasanaeth arbenigol newydd sydd wedi’i ddylunio’n strategol i ferched yng Nghaerdydd, y mae trais a cham-drin wedi effeithio arnynt. Mae’r prif ddarparwr, Cymorth i Fenywod Caerdydd wedi bod yn cydweithio gyda Bawso a Llamau er mwyn mynd i’r afael â phob agwedd ar drais yn erbyn merched:
• Trais/cam-drin domestig
• Trais/cam-drin rhywiol
• Priodas dan orfod
• Camfanteisio rhywiol
• Trais ar sail ‘anrhydedd’
• Anffurfio organau cenhedlu benywod
• Stelcio ac aflonyddu rhywiol
• Plant a phobl ifanc y mae trais/cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae’r gwasanaeth yn darparu llwybr cydlynol, o gyngor a gwybodaeth, ymyrryd mewn argyfwng, diogelu ac amddiffyn mewn argyfwng, cymorth pontio, ôl-ofal a gwella. Bydd yr ymateb 24/7 ar gael drwy un rhif ffôn, cyswllt Skype a sgwrsio ar-lein.
Caiff pob gwasanaeth, gan gynnwys gwaith grŵp ac ymyriadau therapiwtig, ei ddarparu drwy’r Siop Un Stop newydd a fydd yn agor tua diwedd mis Ebrill. Nes bydd y Siop Un Stop newydd yn agor, caiff y gwasanaethau eu darparu o’r Siop Un Stop bresennol gan ddefnyddio’r wybodaeth ganlynol:
Siop Un Stop/canolfan ymateb Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol:
16 Teras Moira, Adamsdown, Caerdydd, CF24 0EJ
Gwybodaeth interim ar gael yn: cardiffwomenscentre.org.uk
Ffoniwch: 029 2046 0566 – ar agor 24/7 ar gyfer pob gwasanaeth
E-bost: reception@cardiffwomenscentre.org.uk
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >