Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis Ymwadiad Cysylltwch â niDatganiad hygyrchedd ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i www.southwalescommissioner.org.uk
Mae tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymrwymedig i wneud y wefan hon yn un hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
* newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
* chwyddo'r deunydd ar y sgrin hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
* gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
* gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA and VoiceOver)
* Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
* Mae cyngor ar gael gan AbilityNet (Byd digidol sy'n hygyrch i bawb.| AbilityNet) ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os bydd angen gwybodaeth arnoch ynghylch y wefan hon mewn fformat gwahanol, megis ar ffurf PDF, print bras, hawdd ei darllen, recordiadau sain neu ar ffurf braille hygyrch, neu os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
* E-bost: Commissioner@south-wales.police.uk
* Ffoniwch: 01656 869366
* Tŷ Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF313SU
* Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu'n ôl â chi mewn 10 diwrnod.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (https://eass-ws.custhelp.com/app/home) .
Statws Cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 (w3.org) Rhestrir yr elfennau rydym wedi'u nodi i'w datblygu ymhellach isod:
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
* Dogfennau WCAG 1.1.1: Mae rhai dogfennau hanesyddol ar ffurf PDF. Maent yn hygyrch i'w darllen o hyd ond nid ydynt yn ddarllenadwy gyda meddalwedd darllen sgrin (nid oes angen newid dogfennau cyn 23 Medi 2018)
* WCAG 1.1.1 Cynnwys heb Destun - nid yw'r logo Twitter sy'n ymddangos ar y wefan yn cynnwys testun amgen.
* WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd - nid yw'r acordiynau ar y dudalen 'Gwneud cwyn' yn hygyrch gyda bysellfwrdd.
* WCAG 2.2.2 Oedi, Stopio, O'r golwg - ni ellir oedi'r carwsél ar y dudalen Hafan ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio drwy'r holl ddogfennau PDF er mwyn sicrhau eu bod yn ddarllenadwy gyda meddalwedd darllen sgrin ac yn gweithio i wneud newidiadau technegol i fynd i'r afael â materion eraill o ddiffyg cydymffurfiaeth. Disgwylir i'r darn hwn o waith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, 2023.
Rydym yn comisiynu gwefan newydd y disgwylir iddi gael ei chwblhau yn ystod yr haf (2023). Bydd y wefan yn cael ei chreu o'r newydd - mae hygyrchedd yn ofyniad allweddol yn y contract a'r nod yw y bydd y wefan newydd yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau.
Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei lunio gyntaf ym mis Mai 2021 a'i adolygu ddiwethaf ym mis Chwefror 2023.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ym mis Chwefror 2023 yn dilyn archwiliad gan Wasanaethau Digiol y Llywodraeth a nododd faterion diffyg cydymffurfiaeth penodol.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…
Gweld mwy >