Wedi'i ddiweddaru: 04/01/2023
Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru Alun Michael yn ôl i'r ysgol ddydd Llun, 19 Rhagfyr.
Aeth i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ynghyd â Phrif Gwnstabl Jeremy Vaughan i gyflwyno tystysgrifau i'r disgyblion a fu'n rhan o brosiect SPARK.
Mae prosiect SPARK yn fenter a arweinir ac a ddatblygwyd gan Gymdeithas Heddlu Du De Cymru (BPA).
Mae'n rhaglen bum wythnos o hyd sy'n ymgysylltu â disgyblion o bob rhan o'r gymuned ac yn eu hannog i ddysgu am eu gwasanaeth heddlu lleol. Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i ddisgyblion wella eu sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain. Yn ystod y cwrs caiff y disgyblion gyfle unigryw i gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion a staff sy'n gweithio mewn amrywiaeth o rolau diddorol, megis gweithredwyr canolfan gwasanaethau cyhoeddus sy'n cymryd galwadau 999. Wedi iddynt barhau â chwrs SPARK, anogir y disgyblion i barhau i ddatblygu drwy ymuno â rhaglenni Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru, The Prince's Trust neu Ambiwlans Sant Ioan.
Dywedodd Marcia Gittens, Cyd-gadeirydd BPA Heddlu De Cymru: “Mae prosiect SPARK yn annog deialog ac yn helpu i feithrin cydberthnasau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu a fydd, gobeithio, yn aros gyda nhw drwy euu harddegau hyd at pan fyddant yn oedolion.
“Gall hyn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder ymysg unigolion o'n cymunedau amrywiol, a all hefyd gynyddu'r tebygolrwydd y bydd rhai disgyblion yn ystyried gyrfa yng ngwasanaeth yr heddlu yn ddiweddarach yn eu bywydau. Dros amser, bydd hyn yn helpu'r heddluoedd i gynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Roedd yn bleser gallu mynd i'r ysgol a chyfarfod y disgyblion a oedd yn amlwg wedi mwynhau eu profiad.
“Hoffwn longyfarch Sunita a Marcia a Chymdeithas Heddlu Du De Cymru, yr ydym yn gweithio'n agos gyda nhw ar nifer o brosiectau, ar fenter lwyddiannus iawn sy'n helpu i feithrin cydberthynas gryfach gyda grwpiau cymunedol.”
Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >Mae galwad wedi mynd allan i drigolion Cymru gymryd rhan yn Nhaith Gerdded Gŵyr i gefnogi pobl ifanc sy'n cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin (DofE)
A…
Gweld mwy >Mae Heddlu De Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i wella'r ffordd y caiff cynllun Gwirfoddolwyr Ieuen…
Gweld mwy >