res
Newid maint testun:

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Wedi'i ddiweddaru: 14/09/2023

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin (DofE).

Roedd y daith gerdded ddydd Sadwrn (9 Medi) yn ddathliad o'i ben-blwydd yn 80 ac yn gyfle i nodi lansio Gwobr Dug Caeredin ar gyfer Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru

Ymunodd Tal, mab y Comisiynydd â'r daith gerdded 22 milltir ar hyd llwybr Arfordir Cymru o Rosili i'r Mwmbwls gyda dros 100 o bobl eraill.

Dywedodd Alun wrth egluro ei benderfyniad i wneud yr her : "Roedd yn wych bod yn rhan o'r digwyddiad a oedd yn antur, yng ngwir ysbryd DofE, ac yn dangos cyfeillgarwch a ddaeth â'r cerddwyr ynghyd. Dysgais lawer gan wahanol bobl sy'n gweithio gyda Gwobr DofE mewn gwahanol leoliadau - mewn ysgolion, gyda phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ac mewn cymunedau difreintiedig. Roedd y trafodaethau yn adlewyrchu fy mhrofiad fy hun fel gweithiwr ieuenctid yng Nghaerdydd yn y gorffennol.

“Fe wnes i gwblhau Gwobr DofE fy hun yn 17 oed - y person cyntaf i gwblhau'r wobr Aur yng Nghymru - a chafodd y profiad effaith gadarnhaol iawn arna i. Dyma'r rheswm rwy'n parhau i gefnogi'r cynllun ac wedi bod yn gweithio er mwyn gwneud Gwobr DofE yn ganolog i'r hyn rydym yn ei gynnig i'r bobl ifanc sy'n ymuno â Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru. Roedd y tywydd yn llethol ond roeddem yn ddiolchgar iawn o niwl oer yr arfordir a oedd yn ei leddfu ac roeddem yn gallu brasgamu ar y diwedd.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy noddi - gyda'n gilydd rydym wedi codi cannoedd o bunnoedd ar gyfer achos arbennig."

Dyw hi byth yn rhy hwyr i noddi Alun. Gellir rhoi rhoddion ar ôl y digwyddiad drwy'r ddolen honGower Walker Alun (dofe.org).

Mae'r DofE yn anelu at gyrraedd miliwn o bobl ifanc erbyn 2026. Yn 2022/23, dechreuodd dros 11,000 o bobl ifanc yng Nghymru eu DofE – a rhoddodd pobl ifanc yng Nghymru, yn anhygoel, 90,103 o oriau i'w cymunedau ar gyfer eu hadran Wirfoddoli, sydd gyfwerth â chyfanswm amcangyfrifedig o £433,000.

I wneud eu DofE, rhaid i bobl ifanc rhwng 14-24 oed ddewis eu gweithgareddau eu hunain i gwblhau adrannau Corfforol, Sgiliau a Gwirfoddoli, Ymgyrch, a chyfnod Phreswyl ar gyfer y lefel Aur. Maent y cael hwyl, yn darganfod diddordebau newydd, yn rhoi yn ôl i'w cymunedau, yn magu gwydnwch a hunangred, ac yn datblygu sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi -  gan weithio tuag at Wobr hynod gydnabyddedig a gaiff ei pharchu ar yr un pryd.


Alun gyda Stephanie Price, Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin Cymru


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn Ymuno â Dathliadau 20 Mlynedd Kaleidoscope

Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…

Gweld mwy >

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd…

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…

Gweld mwy >

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…

Gweld mwy >