res
Newid maint testun:

Alun yn Ymweld â Phrosiectau Canol Tref Castell-nedd er mwyn Helpu i fynd i'r afael â Digartrefedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Wedi'i ddiweddaru: 22/06/2023

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael i Ganol Tref Castell-nedd yn ddiweddar i weld sut mae'r gwaith partneriaeth a ariennir gan ei dîm yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu yn dilyn ymatebion i arolwg gan drigolion a pherchnogion busnesau lleol yn mynegi pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau a digartrefedd yn y dref.

Yn ystod yr ymweliad, siaradodd Alun â'r Rheolwyr Diogelwch Cymunedol a'r Cydgysylltwyr Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yn ogystal ag aelodau o'r gymuned a busnesau lleol.

Aeth ymlaen i ymweld â dau brosiect sydd wedi derbyn arian drwy Grant Uned Atal Trais Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae Prosiect Dewis yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, sy'n ddigartref neu'n wynebu risg o fod yn ddigartref. Mae'r prosiect yn cynnig llety a chymorth i bobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion cymhleth, a'i nod yw meithrin gwydnwch ar gyfer eu dyfodol.

Caiff The Hangout ei ariannu'n llawn gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chafodd ei ddatblygu ar y cyd gan adran Diogelwch Cymunedol yr awdurdod lleol, y Gwasanaeth Ieuenctid a'r Timau Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'n lleoliad newydd diogel sydd â'r nod o ddargyfeirio plant 11 oed a hŷn rhag cael eu denu i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol a chaiff ei gynnal gan weithwyr ieuenctid a'r tîm plismona yn y gymdogaeth lleol.

Dywedodd Alun:  “Mae bob amser yn wych gweld sut mae'r prosiectau y gwnaethom eu hariannu yn ffynnu ac yn gwneud gwahaniaeth. Gwelais bobl a sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i ymdrin â materion a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau'r dref yn ystod yr ymweliad, ac mae'n galonogol iawn.

“Yn aml, mae gan y bobl ifanc sydd yn ddigartref neu'n wynebu risg o fod yn ddigartref anghenion cymhleth ac heb gymorth, maen nhw'n agored iawn i niwed. Mae prosiect Dewis yn gwneud gwaith gwych o ddarparu llety diogel a chymorth gyda'r nod o wella amgylchiadau unigol a'u codi o sefyllfaoedd anodd a pheryglus iawn.

Wrth siarad am The Hangout, dywedodd Alun Michael: “Fel cyn-weithiwr ieuenctid, rwy'n gwybod am bwysigrwydd lleoliadau diogel lle y gall plant ymgysylltu'n ddiogel â'i gilydd ac ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo. Roedd yn wych clywed bod The Hangout yn boblogaidd ymhlith bobl ifanc y dref.”

Yn y llun: Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Alun Michael yn cynnal ymweliadau ymgysylltu â chymunedau ledled de Cymru drwy gydol y flwyddyn er mwyn gweld â'i lygad ei hun pa wahaniaeth y mae prosiectau ac ymyriadau'r heddlu a phartneriaid yn ei gael.


Alun Michael yn ymweld â The Hangout - clwb ieuenctid a ariennir gan Grant yr Uned Atal Trais.


Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >