res
Newid maint testun:

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn chwilio am recriwtiaid i ymuno â gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu

Wedi'i ddiweddaru: 27/02/2023

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi agor y ffenestr recriwtio ar gyfer Cadeiryddion gyda Chymwysterau Cyfreithiol ac Aelodau Panel Annibynnol. Mae'r ddwy yn rolau statudol allweddol, sy'n ffurfio'r panel - ochr yn ochr ag un o uwch swyddogion yr heddlu - mewn gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu.

Y Cadeirydd gyda Chymwysterau Cyfreithiol fydd yn arwain ar wrandawiadau camymddwyn difrifol ac ar gael ei benodi bydd yn ymuno â chronfa bresennol o bersonél â chymwysterau cyfreithiol y bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn galw arnynt yn dilyn system rheng cab.

Mae’n ofynnol i Aelodau Panel Annibynnol gynorthwyo mewn gwrandawiadau camymddwyn i ddod i ddyfarniad teg, yn seiliedig ar dystiolaeth, am ymddygiad swyddog heddlu penodol ac i gytuno ar sancsiwn priodol. 

Un o swyddogaethau allweddol yr Aelod Panel Annibynnol fydd rhoi sicrwydd i'r gymuned leol bod materion camymddwyn yr heddlu yn cael eu trin yn briodol ac yn cael eu dyfarnu'n annibynnol. Bydd Aelod Panel Annibynnol yn ystyried tystiolaeth gan dystion, yn gwrando ar gyflwyniadau gan bartïon i’r gwrandawiad ac yn gwneud penderfyniadau gwybodus o ran y canlyniad. Rhaid iddynt feddu ar y gallu i herio aelodau eraill y Panel mewn ffordd adeiladol ond heb fod yn wrthdrawiadol.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn awyddus i benodi hyd at 6 Chadeirydd â Chymhwyster Cyfreithiol a hyd at 24 o Aelodau Panel Annibynnol. Mae'r ddwy yn rolau â thâl, a bydd y Swyddfa'n talu am dreuliau a theithio. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau erbyn 3 Mawrth 2023 ar gyfer rôl Cadeirydd â Chymhwysedd Cyfreithiol a 10 Mawrth 2023 ar gyfer rôl Aelod Panel Annibynnol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: "Mae Cadeirydd gyda Chymhwysedd Cyfreithiol ac Aelod Annibynnol o’r Panel yn chwarae rhan allweddol yn y broses gamymddwyn o fewn gwasanaeth yr heddlu.

"Mae eu hannibyniaeth yn dod â safbwynt diduedd a thryloywder hanfodol i achosion o gamymddwyn sy’n hanfodol ar gyfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

“Mae hwn wir yn gyfle i wneud cyfraniad pwysig at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaeth yr heddlu. Dylai unrhyw un sydd â’r sgiliau cywir ac sydd â diddordeb gysylltu am fwy o wybodaeth neu gyflwyno cais.”

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y naill rôl neu'r llall, mae rhagor o fanylion, gan gynnwys manyleb person a ffurflen gais, ar gael yn www.northwales-pcc.gov.uk/vacancies


Llun o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cael ei chydnabod am e…

Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…

Gweld mwy >

Recriwtiwyd dros 850 o swyddogion newydd i Tim HDC yn ystod y tair blynedd diwet…

Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…

Gweld mwy >

Mae Emma Wools yn esbonio sut yn union y mae'r Glasbrint ar gyfer Menywod yn ‘hy…

#HyrwyddoTegwch #DRhM2023

Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…

Gweld mwy >