res
Newid maint testun:

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 08/11/2023

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngor

(Dydd Llun, 6 Tachwedd) Mae arolwg i fesur faint mae pobl De Cymru yn fodlon ei dalu tuag at wasanaethau plismona lleol wedi'i lansio gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael.

Bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn yr arolwg a mynegi eu barn o ddydd Llun, 6 Tachwedd tan 18 Rhagfyr.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am bennu cyllideb Heddlu De Cymru a phenderfynu faint yn rhagor o gyllid y mae angen ei godi drwy'r tâl ychwanegol ar y dreth gyngor. Yr enw ar hyn yw ‘praesept’ yr heddlu, ac mae'n cyfrif am bron hanner cyllid Heddlu De Cymru, gyda'r gweddill yn dod gan y Llywodraeth.

Wrth bennu'r praesept, mae'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r etholwyr lleol am yr hyn y maent yn barod i'w dalu am wasanaeth yr heddlu. Fel rhan o'r arolwg a lansiwyd yr wythnos hon, gofynnir i gyfranogwyr ddewis o amrywiaeth o opsiynau cynnydd.

Yn Ne Cymru, mae preswylwyr yn talu'r gyfradd gyfartalog yng Nghymru am wasanaethau plismona ar hyn o bryd, sy'n is o lawer na chost plismona yng Ngogledd Cymru.

Mae preswylwyr sy'n byw mewn Eiddo Band D yn Ne Cymru yn talu £27.04 y mis am wasanaethau plismona ar hyn o bryd, ond mae mwy na 60% o breswylwyr De Cymru yn byw mewn band eiddo sy'n is na Band D ac yn talu llai, ac mae'n bosibl eu bod yn cael disgowntiau neu fudd-daliadau treth gyngor hefyd.

Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'u cynllunio ledled De Cymru dros yr wythnosau nesaf, er mwyn codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn yr arolwg.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael: “Wrth bennu'r praesept, mae'n bwysig fy mod yn ymgynghori â threthdalwyr lleol er mwyn deall barn y cyhoedd o ran yr hyn y maent yn barod i'w dalu am wasanaethau plismona yn Ne Cymru.

“Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu nifer o gartrefi yn broblem fawr, ond mae'r un pwysau ariannol sy'n effeithio ar bobl gyffredin, fel cynnydd yng nghostau tanwydd ar gyfer cerbydau a chartrefi a chostau'r gadwyn gyflenwi, wedi cael effaith fawr ar gyllidebau'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, diolch i ddull ‘arian gwastad’ y Llywodraeth o ariannu gwasanaethau plismona. Mae'r Llywodraeth wedi trosglwyddo baich plismona oddi ar y llywodraeth ganolog i drethdalwyr lleol, ac mae'n parhau i wneud hynny. Mae'n rhaid i'r bwlch hwnnw mewn cyllid gael ei bontio rywsut – mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnom i fantoli'r cyfrifon.”

“Bydd y grant ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr yn cael ei gyhoeddi gan un o Weinidogion y Swyddfa Gartref ychydig cyn y Nadolig. Yna, bydd yn rhaid i mi bennu'r gyllideb a rhoi gwybod i Banel yr Heddlu a Throseddu am y praesept arfaethedig erbyn mis Chwefror 2024.

“Mae De Cymru yn un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, ond mae'r pwysau sylweddol ar blismona a gwasanaethau eraill yn golygu bod angen ystyried lefel y dreth gyngor sydd ei hangen i gefnogi cymunedau a mynd i'r afael â bygythiadau troseddau newydd yn ofalus iawn.

“Wrth bennu'r praesept ar gyfer 2024 / 2025, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gydbwyso fforddiadwyedd â sicrhau bod gan Heddlu De Cymru y cyllid i barhau i gadw cymunedau'n ddiogel.”

Cymryd rhan yn yr arolwg

 


Llun gan Alun Michael


Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >