res
Newid maint testun:

Cynllun grant Llywodraeth Cymru er mwyn helpu plant sy'n agored i niwed yng Nghymru

Wedi'i ddiweddaru: 14/11/2022

Cynllun grant Llywodraeth Cymru er mwyn helpu plant sy'n agored i niwed yng Nghymru

Unwaith eto mae tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ledled Cymru.

Dewiswyd y tîm i weinyddu cynllun grant Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gwerth £450,000 dros y tair blynedd nesaf. Bydd yn gweithio'n agos gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Ngwent, Dyfed Powys a Gogledd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod y grantiau ar gael.

Nod y cynllun yw atgyfnerthu mentrau sy'n cefnogi unigolion sy'n tyfu i fyny â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, megis mewn teuluoedd lle y ceir trais domestig neu gamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â rhoi cymorth ymarferol i deuluoedd er mwyn eu helpu i ddelio â materion megis materion ariannol y teulu neu rianta er mwyn gwella gwydnwch.

Gall cyllid hefyd gael ei ddefnyddio i gefnogi unigolion neu sefydliadau sy'n cynnal gweithgareddau er mwyn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol neu'r rhai sy'n annog cymunedau i ddatblygu eu cryfder cyfunol a'u cymorth i'w gilydd.

Y llynedd, cafodd 1,877 o blant a phobl ifanc fudd o grantiau a ddosbarthwyd i 21 o sefydliadau ledled Cymru gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu ar ran Llywodraeth Cymru.

Helpodd y grantiau hyn i ariannu amrywiaeth o weithgareddau y bwriadwyd iddynt gynnig profiadau cadarnhaol, o chwaraeon a sesiynau celf a chrefft i therapi a gwasanaethau cwnsela. Rhoddwyd grantiau brys llai hefyd drwy wasanaethau allgymorth er mwyn diwallu anghenion brys teuluoedd difreintiedig o ran tai a chludiant.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Rwy'n croesawu rhan ddiweddaraf cynllun grant Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gan Lywodraeth Cymru yn fawr. Gwyddom y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod arwain at iechyd meddwl ac iechyd corfforol, canlyniadau addysgol, cydberthnasau a ffyniant economaidd gwaeth. Gallant hefyd gynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolion yn dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.

"Mae hyn yn rhoi cyfle i ni weithio gyda thimau comisiynwyr yr heddlu a throseddu ledled Cymru er mwyn dyrannu cymorth ariannol y mae ei fawr angen i unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n gwneud gwaith hollbwysig yn y gymuned er mwyn helpu'r rhai sy'n agored i niwed ac o dan anfantais.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae'n wych ein bod wedi gallu darparu cyllid  er mwyn helpu cymunedau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ledled Cymru. Bydd y grantiau hyn yn helpu grwpiau i ymestyn eu cymorth i deuluoedd mewn angen ymhellach drwy brofiadau a gweithgareddau cadarnhaol sy'n gwella llesiant. Mae'r cymorth y maent yn ei ddarparu mewn cymunedau bellach yn bwysicach nag erioed, wrth i'r argyfwng gostau byw ddechrau cael effaith a chynyddu'r pwysau ar rai o'n teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed.”

Gall unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud cais am grantiau gwerth rhwng £200 a £20,000 cyn y dyddiad cau, sef 25 Tachwedd.

Sut i wneud cais:

Mae'r cynllun grant ar agor bellach ar gyfer ceisiadau ac mae'n darparu cyllid ar draws pedair ffrwd wahanol, sef:

  1. Hyd at £200 grŵp heb ei gyfansoddi heb gyfrif banc grŵp
  2. Hyd at £500 grŵp heb ei gyfansoddi â chyfrif banc
  3. Hyd at £20,000 grwpiau a gyfansoddwyd â chyfrif banc
  4. Hyd at £30,000 consortiwm

Mae'r broses gwneud cais ei hun yn cael ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Am fanylion llawn ac arweiniad, neu er mwyn gwneud cais i gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i:

https://policeandcrimecommissionerforsouthwales.flexigrant.com/

Os byddwch yn ei chael hi'n anodd defnyddio'r system, cysylltwch â Jo Markham.

joanna.markham@south-wales.police.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chyllid, anfonwch neges e-bost i: FUNDING@south-wales.police.uk

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw 25 Tachwedd 2022.

Bydd y cynllun ar gael am y tair blynedd nesaf. Rhaid i bob grant gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2023.

 


Graffeg Cyllid ACES Llywodraeth Cymru


Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >