Wedi'i ddiweddaru: 28/06/2023
Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gorau ac amlycaf yng Nghymru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Rwy'n hynod falch bod gwaith pwysig Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Cyflawniad Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig am Arweinyddiaeth.
“Mae ei hangerdd a'i hymroddiad yn ysbrydoledig - mae'n arwain drwy esiampl ac yn fodel rôl i bob menyw a merch, yn enwedig y rheini sydd o gefndir ethnig lleiafrifol.
“I mi, mae hi'n llwyr haeddu'r clod hwn.Mae Emma wedi arwain gwaith blaengar Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a gafodd ei lansio fis Medi diwethaf ac Emma yw Uwch Swyddog Cyfrifol Glasbrint Cyfiawnder Troseddol i Fenywod, sydd â'r nod o wella profiad a chanlyniadau'r system cyfiawnder troseddol i bob menyw.
“Mae gwaith Emma yn amlwg yn helpu i lunio System Cyfiawnder Troseddol decach, fwy amrywiol a chynhwysol yng Nghymru a bydd ei chyfraniadau yn cael eu gerthfawrogi am flynyddoedd i ddod gan bobl Cymru”
Cafodd Emma ei henwebu gan Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
“Rwy'n falch dros ben o gael y wobr hon am Arweinyddiaeth ac mae wedi bod yn anrhydedd yn broffesiynol ac yn bersonol o gael bod ymhlith cymaint o fenywod talentog ac ysbrydoledig.
“Mae'r wobr yn cydnabod y gwaith rwy'n ymwneud ag ef gyda llawer o gydweithwyr sy'n rhannu fy angerdd am System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru.
“Mae gennym her fawr o'n blaenau, ond mae gennym bobl anhygoel yn gweithio tuag at nodau pwysig iawn ac rwy'n hyderus y gallwn newid pethau i gymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru.
“Hoffwn ddiolch a chymeradwyo gwaith y Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig sy'n rhoi llwyfan arbennig i fenywod lleiafrifoedd ethnig i ddathlu cyflawniadau ac ysbrydoli eraill.”
Gwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig
Cynhaliwyd seremoni 2023 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd yn ddiweddar.
Sefydliad elusennol yw Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig a arferai gael ei adnabod fel Gwobr Cyflawniad Menywod Asiaidd Cymreig. Ei nod yw creu rhwydwaith o fenywod a merched o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru i ddarparu unigolion disglair ac ysbrydoledig i genedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.
Cafodd y llun ei rannu gan Chwarae Teg a noddodd y categori Gwobr Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >