Wedi'i ddiweddaru: 20/12/2022
Cynhaliodd Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru seminar ymwybyddiaeth o stopio a chwilio ddydd Iau, 8 Rhagfyr.
Cynhaliwyd y seminar yn Jersey Marine, Abertawe ac fe'i mynychwyd gan aelodau o'r trydydd sector a gweithwyr ieuenctid o bob rhan o Dde Cymru sy'n gweithio gyda chymunedau Du ac ethnig lleiafrifol.
Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o'r ffordd y caiff y broses stopio a chwilio ei rhoi ar waith gan Heddlu De Cymru ac esbonio rôl craffu tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Rhoddwyd cyflwyniadau i'r rhai a oedd yn bresennol ar ymarfer stopio a chwilio a oedd yn cynnwys dadansoddiad o'r data diweddaraf yn Ne Cymru.
Yn Ne Cymru, fel gweddill y DU, mae pobl Ddu ac ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na phobl wyn. Trafodwyd natur yr anghymesuredd hwn yn fanwl yn ystod y seminar a gallai'r rhai a oedd yn bresennol ystyried arwyddocâd y rhifau yn fanwl.
Dywedodd Hannah Jenkins-Jones:
“Yn anffodus, mae anghymesuredd yn broblem go iawn – mae felly'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod prosesau stopio a chwilio yn cael eu monitro'n barhaus er mwyn sicrhau bod y pŵer yn cael ei ddefnyddio mewn modd teg ac anwahaniaethol gan swyddogion.
“Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf o'i fath i ni ac roedd yn galonogol gweld bod llawer o bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc ethnig leiafrifol wedi ymuno.
“Ein nod drwy ddigwyddiadau fel hyn yw addysgu a hysbysu, yn ogystal â gwrando ar farn pobl. Dim ond drwy wrando y byddwn yn deall sut a ble y gall yr heddlu wella'r ffordd y mae'n gwneud pethau a pha faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw."
Mae aelodau o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cynnal ymarferion hapsamplu lle byddant yn adolygu ffurflenni stopio a chwilio a gwblhawyd gan swyddogion yr heddlu, yn ogystal ag adolygu deunydd ffilm o gamerâu fideo a wisgir ar y corff.
Bydd Grŵp Cynghori Annibynnol yr heddlu yn craffu ar brosesau stopio a chwilio hefyd, yn ogystal â Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y mae'r ddau ohonynt yn cynnwys aelodau annibynnol o'r gymuned.
Mae Grwpiau Cydlyniant Cymunedol lleol hefyd sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned sy'n astudio'r defnydd o brosesau stopio a chwilio yn eu hardaloedd.
Sefydlwyd Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol yng Nghymru yn ddiweddar er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaethu systemig a'r anfantais a brofir gan bobl Ddu ac Ethnig Leiafrifol ym mhob rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Gan weithio gyda Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, bydd y panel, sy'n cynnwys 12 aelod annibynnol o'r gymuned nad ydynt wedi'u cyflogi gan asiantaeth cyfiawnder troseddol, yn gwneud gwaith craffu hanfodol ac yn dwyn Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i gyfrif wrth iddynt weithio tuag at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a gafodd ei lansio ym mis Medi 2022.
Llun o Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools (yr ail o'r chwith) gyda gweithwyr allgymorth ‘Fearless’ Crimestoppers, Kendra Ross, Alistair Smith, a Kieran Porter, yn y seminar yn Abertawe.
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >