res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Partneriaeth i Roi Cyfleoedd Newydd i Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn Ne Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 22/08/2023

Mae Heddlu De Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i wella'r ffordd y caiff cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ei gyflwyno ac i roi cyfleoedd newydd i bobl ifanc.

 

Caiff y cytundeb pedair blynedd ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mae'n nodi pennod newydd gyffrous ar gyfer cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a gafodd ei lansio gyntaf gan Heddlu De Cymru yn 2014.

 

Mae'r cynllun wedi tyfu'n sylweddol ers hynny - heddiw mae dros 100 o wirfoddolwyr rhwng 14 ac 17 oed  mewn wyth hyb ledled De Cymru a chânt eu cefnogi gan dimau plismona lleol.

 

Mae'r gwirfoddolwyr (y cyfeirir yn aml atynt yn Saesneg fel PYVs) yn rhan o grŵp ieuenctid yr heddlu a gydnabyddir ledled y DU. Nod y cynllun yw ysbrydoli aelodau i gymryd rhan yn eu cymunedau yn gadarnhaol ac i annog dinasyddiaeth dda ac ysbryd o fentro. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn cymryd rhan mewn gwaith sy'n cefnogi blaenoriaethau plismona lleol ac yn dysgu sgiliau sy'n gwella eu gwaith yn y gymuned.

 

Bydd Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn gweithio'n agos gyda'u partneriaid gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a'u gweithwyr ieuenctid yn ogystal â Phrifysgol  Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru y  Drindod  Dewi Sant, a bydd y myfyrwyr o'u rhaglenni ieuenctid a chymuned a throseddeg a phlismona yn gwirfoddoli fel rhan drefniadau lleoli eu rhaglen. Byddant i gyd yn cydweithio ag ‘Arweinwyr’ presennol Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu – sy'n cynnwys PCSOs, swyddogion yr heddlu a gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu – er mwyn cyflwyno rhaglen wedi'i theilwra.

 

Gan weithio gyda Gwobr Dug Caeredin, St John Cymru a darparwyr gwaith ieuenctid eraill, bydd y gweithgareddau yn seiliedig ar anghenion y gwirfoddolwyr eu hunain, a bydd yn cynnwys cael gafael ar amrywiaeth o gyfleoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, llesiant, datblygiad personol a chymdeithasol a gyda chefnogaeth rhagolygon addysg, hyfforddiant a chyflogaeth y gwirfoddolwyr.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r bartneriaeth arloesol hon sy'n ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant presennol y cynllun a mynd ag ef i'r lefel nesaf. Mae gan Gyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol brofiad heb ei ail o ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd a fydd yn dod â buddiannau enfawr i'n llu o wirfoddolwyr. Bydd cyfle ar y cyd â hyn i gwblhau camau yng Ngwobr Dug Caeredin a gwn o brofiad ei fod yn helpu pobl ifanc i ffynnu a datblygu. Mae cysylltu â'r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru a'r ddwy brifysgol yn gwneud hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Danny Richards: “Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu dealltwriaeth o blismona a gwasanaeth cyhoeddus. Mae'n annog datblygiad sgiliau personol a chyfathrebu gan annog dinasyddiaeth dda drwy ymgysylltu â chymunedau lleol ar yr un pryd.”

 

Dywedodd Paul Glaze, Prif Weithredwr Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol: "Ynghyd â'n partneriaid, mae'n bleser gennym fod wedi cael y cyfle i weithio gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ac Arweinwyr ar draws yr holl Hybiau bywiog yn Ne Cymru. Ein nod yw cefnogi a chyflwyno'r rhaglenni gorau posibl sy'n seiliedig ar waith ieuenctid sy'n diwallu anghenion holl wirfoddolwyr presennol a'r rhai sydd heb ymuno eto. Rydym wir yn edrych ymlaen at ddechrau arni!”

 

O'r dde i'r chwith: Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Amanda Everson (Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol), y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards, Paul Glaze (Prif Weithredwr Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol)

O'r dde i'r chwith: Bronwen Williams, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Grant Pointer, Clwb Bechgyn a Merched Cymru.

Tu allan i Bridewell Merthyr Tudful gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, Cangen Merthyr Tudful.


O'r dde i'r chwith: Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Amanda Everson (Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol), y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards, Paul Glaze (Prif Weithredwr Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol) O'r dde i'r chwith: Bronwen Williams, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Grant Pointer, Clwb Bechgyn a Merched Cymru. Tu allan i Bridewell Merthyr Tudful gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, Cangen Merthyr Tudful.


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn Ymuno â Dathliadau 20 Mlynedd Kaleidoscope

Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…

Gweld mwy >

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd…

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…

Gweld mwy >

Alun yn cerdded 22 milltir i gefnogi Gwobr Dug Caeredin

Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…

Gweld mwy >