Wedi'i ddiweddaru: 11/05/2023
Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Lloegr.
Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi recriwtio 870 o swyddogion newydd – 92% yn fwy na’r cynnydd a dargedwyd o 452.
Fel heddlu rydym wedi ymrwymo i ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym yn parhau i annog unigolion o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried ymuno â ni.
Edrychwn ymlaen at wylio ein recriwtiaid newydd yn datblygu eu gyrfaoedd gyda ni a byddwn yn parhau i recriwtio’r talentau gorau oll i Heddlu De Cymru, gan helpu i gadw De Cymru’n Ddiogel.
Dyweddod Prif Cwnstabl Jeremy Vaughan:
"Rwy'n falch iawn ein bod ni fel heddlu wedi rhagori ar ein targed Recriwtio (Uplift) sydd wedi ein galluogi i gynyddu nifer y swyddogion rheng flaen yn ogystal â swyddogion mewn rolau arbenigol sy'n gweithio i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel.
"Mae hyn wedi creu cyfleoedd i bobl ymuno â Heddlu De Cymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau.
"Mae swyddogion yr Heddlu yn dangos balchder a dewrder bob dydd er mwyn diogelu pobl rhag niwed a mynd ar ôl y bobl sy'n benderfynol o achosi niwed i bobl eraill.
"Rydym hefyd wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein recriwtiaid newydd yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chafodd hyn ei gyflawni drwy estyn allan i annog pobl i wneud cais a'u helpu drwy'r broses.
"Mae recriwtio 870 o swyddogion newydd i Dîm HDC wedi bod yn heriol iawn, yn enwedig yn ystod cyfnod pan oeddem dan gyfyngiadau llym a achoswyd gan bandemig iechyd byd-eang, ond mae wedi denu ystod eang o sgiliau a phrofiadau a bydd hyn yn gwella ein gwasanaeth i'r cyhoedd yn ogystal â chynyddu ein niferoedd mewn rolau arbenigol hanfodol megis ein Tîm Camfanteisio a Thimau Unigolion Coll."
Ywchwanegodd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:
"Er bod y Rhaglen Recriwtio (Uplift) wedi cynyddu niferoedd swyddogion yr heddlu, dim ond adfer y niferoedd yn Ne Cymru i'r hyn oeddent ychydig dros ddegawd yn ôl sydd wedi digwydd.
"Ar ben hynny, rydym hefyd wedi gorfod talu costau offer, lifrai, fflyd a hyfforddiant gyda'r baich o ariannu'r holl dreuliau costus ond angenrheidiol hyn yn cael ei roi ar drethdalwyr lleol. Mae wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn mwy o adnoddau arbenigol er mwyn mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol ac amddiffyn Plismona yn y Gymdogaeth, sy'n flaenoriaeth i mi ac i'r Prif Gwnstabl.
"Rwy'n falch ein bod wedi rhagori ar ein targedau recriwtio ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrech sylweddol sydd wedi mynd i mewn i'r broses recriwtio a hyfforddi er mwyn diogelu cymunedau De Cymru.
"Mae wedi ein galluogi i groesawu swyddogion newydd o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, a fydd yn cyflwyno syniadau a safbwyntiau newydd i'r heddlu."
Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…
Gweld mwy >Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…
Gweld mwy >#HyrwyddoTegwch #DRhM2023
Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…
Gweld mwy >