Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (Ebrill '21)
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n atebol i graffu gan Banel Heddlu a Throseddu sy’n gwirio ac y…
Wedi'i ddiweddaru: 10/03/2021
Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn yn eich cyflwyno i rai ohonynt, ac yn rhoi mewnwelediad i’r gwaith amrywiol maent yn ei wneud wrth galon ein cymunedau i wneud nhw’n lefydd gwell a mwy diogel.
Maent yn lleihau’r ofn o drosedd, yn cadw pobl yn ddiogel rhag niwed ac yn cynyddu ymddiriedaeth a hyder y gymuned trwy weithio gyda’r gymuned leol i daclo materion sy’n achosi pryder lleol.
Mae SCCH yn hanfodol I lwyddiant plismona bro ac yn ddolen rhwng cymunedau lleol a’r heddlu. Mae’n yrfa sy’n chwarae rȏl ganolog yn y cymunedau hynny, ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn – ac i’r rhai mwyaf bregus.
Mae hyn wedi bod yn amlwg yn y rhan bwysig meant wedi chwarae yn ystod yr argyfwng iechyd, Coronafeirws. Maent wedi darparu yn gyson ymgysylltu positif ȃ chymunedau, defnyddio cynlluniau heddlu gogwydd problem i fynd i’r afael ȃ rheoli’r cyfnodau aros adref/ teithio hanfodol o’r pandemig. Maent hefyd wedi mynd i’r afael ȃ phryderon cymunedol trwy batrolau wedi eu targedu ar y cyd ȃ phartneriaid. Fe wnaeth y lluoedd yng Nghymru hefyd roi pwerau ychwanegol i SCCH i orfodi rheoliadau a rhoi hysbysiadau cosb benodedig mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae’n wahanol i fod yn Heddwas gwarantedig, gan nad oes ganddynt y pŵer i arestio, ond maent yn gallu caethiwo pobl pan fod angen, ac mae ganddynt bwerau dynodedig ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, tybaco a alcohol, a hysbysiadau cosb benodedig er engraifft. Mae’r rȏl yn cefnogi heddweision mewn amrywiaeth eang o senarios ac maent wedi cymryd ymlaen nifer o rolau arbenigol fel datrys problemau a seibrdroseddu.
Dywedodd Y Dirprwy Weinidog a Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru ers 2011, ac yn y gyllideb diweddar fe wnaethom gadarnhau ein hymrwymiad ar gyfer 2021-22.
“Mae SCCH yn rhoi presenoldeb heddlu gweledol ar lefel lleol, yn tawelu meddwl y cyhoedd, yn deall anghenion lleol, yn pontio’r bwlch rhwng cymunedau a heddluoedd, ac yn helpu adeiladu Cymru mwy diogel a chynhwysol.
“Maent wedi gwneud gwahaniaeth anferth ar draws Cymru yn ystod yr ymateb i pandemig Covid-19 trwy helpu I daclo pryderon lleol a chefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Rwyf eisiau cymeradwyo a dathlu’r gwaith maent wedi ei wneud.”
Ychwanegodd y Comisiynydd Alun Michael, Arweinydd Cymru dros Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ar SCCH:
“Mae rȏl y SCCH yn cael ei werthfawrogi’n aruthrol gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru, ac yn hanfodol yn y modd mae’r pedwar heddlu yng Nghymru yn cynnal plismona bro trwy gyfnod lle mae Llymder wedi arwain rhai heddluoedd yn Lloegr I symud I ffwrdd o ran o blismona yr ydym ni’n ystyried yn anhepgor.
"Mae’n rȏl sy’n cael ei werthfawrogi ynddo’i hun – tra fod swyddogion gwarantedig yn aml yn cael eu defnyddio I ymateb I heriau a digwyddiadau sy’n aml yn ddybryd ac yn arwyddocaol, pwrpas y SCCH yw I fod yna yn y gymuned bob amser – ac mae’n gweithio. Mae eu rȏl yn driphlyg: cyfathrebu trwy siarad ȃ cymunedau a gwrando I’r hyn mae’r cyhoedd yn ei ddweud, datrys problemau trwy weithio drwy materion bob dydd sy’n achosi pryder yn y gymuned, rhoi’r grym I gymunedau I helpu bobl leol I wella ansawdd bywyd lleol.
"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn golygu fod gennym dwbl y nifer o SCCH yn heddluoedd Lloegr ac mae hynny yn atgyfnerthu’r tȋm plismona cyfan yn eu rȏl o helpu ein cymunedau I fod yn gryf, diogel a hyderus. Ac mae’r storiau unigol o’r gwaith mae SCCH yn gwneud yn wirioneddol ysbrydoledig – gan ategu y gwaith gwych mae ein swyddogion a gweddill staff yr heddlu yn gwneud yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter, Arweinydd Plismona ar Swyddogion Cefnogi Cymunedol ar draws Cymru:
“Mae SCCH yn chwarae rȏl hanfodol yn ein cymunedau, ac rwy’n gwybod pa mor werthfawr maent a’r gwaith gwych maent yn ei wneud I atal trosedd a chysuro ein cymunedau ar draws Cymru. Mae’r pedwar llu yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n aiannu cyfran o SCCH dros Gymru gyfan. Mae hyn yn cynorthwyo i gynnal yr adnodd pwysig yma, mewn cyfnod lle fod gan Heddluoedd nifer o ofynion cyllid sy’n cystadlu a’u gilydd.
"Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu eu gwaith, ac yn cydnabod eu hymrwymiad wrth I ni gyd weithio gyda’n gilydd I leihau niwed a throsedd yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen I glywed straeon rai o’n SCCH ymroddedig a phroffesiynol yr wythnos yma – efallai fydd pobl yn synnu ar yr ehangder ac amrywiaeth o’u gwaith a’u heffaith arwyddocaol ar ein cymunedau.”
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi tystiolaeth feddygol gymhellol pam na allwn lacio'r rheolau a gadael i bawb wneud fel y mynnant. Mae'r penwy…
Gweld mwy >Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg du a glas, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn …
Gweld mwy >Mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder ynglŷn â phryd y gall swyddogion a st…
Gweld mwy >