res
Newid maint testun:

Teyrnged i'r swyddogion a fu farw cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (dydd Sul, 24 Medi)

Wedi'i ddiweddaru: 22/09/2023

Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar gyfer 20fed Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu (NPMD), i anrhydeddu'r swyddogion heddlu a wnaeth yr aberth eithaf wrth amddiffyn a gwasanaethu eu cymunedau.

Dywedodd Alun Michael: "Bob diwrnod y bydd swyddog yr heddlu yn mynd i'w waith, bydd yn peryglu ei hun er mwyn diogelu eraill.

"Bydd dydd Sul yn gyfle i gofio am gydweithwyr a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu ac i feddwl am eu teuluoedd sydd wedi gorfod dioddef y torcalon o golli eu hanwylyd.

“Nid ânt yn angof.”


Delwedd o blac coffa Heddlu de Cymru


Y newyddion diweddaraf

Cafodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru le canolog yn yr Uwchgynhadledd Plismona…

Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…

Gweld mwy >

Byddwn Yn Eu Cofio

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10  Tachwedd, 202…

Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lansio arolwg praesept yn Ne Cymru

Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…

Gweld mwy >