Wedi'i ddiweddaru: 26/07/2022
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Alun Michael a'i dîm wedi llwyddo yn eu cais am gyllid gwerth bron £1.5 miliwn i gyflwyno cyfres o fentrau sydd â'r nod o gadw menywod yn ddiogel a hefyd fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd a nodwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
Cafodd y ddau gais llwyddiannus eu datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau a oedd yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Cymorth i Ferched Cymru, a hefyd bartneriaid statudol allweddol eraill a phartneriaid yn y trydydd sector ynghyd â Heddlu De Cymru ei hun. Mae'r cyllid a ddarparwyd gan y ddau gais wedi'i ddyrannu fel a ganlyn:
Caiff yr arian ei ddefnyddio i gyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch menywod, lleihau troseddau cymdogaeth ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal ag estyn y mentrau llwyddiannus sy'n bodoli eisoes. Bydd y gwaith yn cynnwys:
Mae'r llwyddiant diweddaraf i ennill cyllid Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref yn adeiladu ar y swm o fwy na £1.4m y mae'r Comisiynydd eisoes wedi'i sicrhau drwy geisiadau blaenorol am waith yn ardaloedd awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerdydd.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Rwy'n falch iawn bod ein cais diweddaraf i Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref wedi bod yn llwyddiannus; mae'r dyraniad o £1.5 yn glod i'r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth yma yn Ne Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r cynghorau a phartneriaid eraill i nodi'n fanwl y ffactorau sy'n ysgogi problemau lleol a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.
“Caiff yr arian hwn ei fuddsoddi mewn mentrau sy'n gwneud strydoedd Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i fenywod a merched, yn ogystal â lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau. Mae atal trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth benodol i mi erioed fel Comisiynydd ac er ein bod wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â'r broblem yn Ne Cymru, erys yn un o'r problemau mwyaf a wynebwn ac mae'n rhaid i ni bob amser ymdrechu i wneud mwy er mwyn ceisio gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o fygylu ac aflonyddu a brofir gan fenywod a merched yn ein cymunedau.
“Gan weithio mewn partneriaeth, byddwn yn canolbwyntio ar fanteision uniongyrchol mesurau ymarferol fel systemau teledu cylch cyfyng a gwelliannau ffisegol i'r amgylchedd, a hefyd ar sicrhau gwelliannau hirdymor cynaliadwy i greu cymunedau diogel, hyderus a gwydn. Y ffaith syml yw, o weithio gyda'n gilydd, y byddwn yn cyflawni mwy nag y gallwn ar ein pen ein hunain.”
Bob dwy flynedd, mae'r Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnigyn cynnal seremoni wobrwyo i anrhydeddu'r menywod ethnig gor…
Gweld mwy >Dechreuodd Rhaglen Recriwtio'r Heddlu yn 2019, gyda Llywodraeth y DU yn anelu at recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled heddluoedd Cymru a Ll…
Gweld mwy >#HyrwyddoTegwch #DRhM2023
Dyma Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a'r Uwch-swyddog sy'n Gyfrifol am y Glasbrint ar gyfer C…
Gweld mwy >