Mae Arolwg y Praesept NAWR YN FYW tan 18 Rhagfyr
Mae arolwg i fesur faint mae'r cyhoedd yn Ne Cymru yn barod i'w dalu tuag at wasanaethau plismona ll…
Wedi'i ddiweddaru: 22/09/2023
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaeth wedi bod yn gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau yn Ne Cymru a Gwent ers 20 mlynedd.
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Gwynllyw, Casnewydd, roedd Jessica Morden, Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid a Martin Blakebrough, Prif Weithredwr Kaleidoscope.
Cafodd defnydd call o Naloxone, sef meddyginiaeth sy'n achub bywydau, ei hyrwyddo yn y digwyddiad, a chafwyd perfformiad hefyd gan Gôr Adfer Bryste, Rising Voices.
Mae'r Comisiynydd wedi cefnogi'r defnydd o Naloxone gan swyddogion Heddlu De Cymru yn llawn ers iddo gael ei dreialu yn gyntaf ym mis Medi, 2022. Ers hynny, mae 34 o fywydau wedi cael eu hachub gan swyddogion rheng flaen ac mae cannoedd o swyddogion heddlu a PCSOs wedi gwirfoddoli i gario'r feddyginiaeth.
Llun: Aeth Alun i ddigwyddiad dathlu Kaleidoscope yng Nghasnewydd ac yno hefyd roedd Jessica Morden, Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid a Martin Blakebrough, Prif Weithredwr Kaleidoscope.
Cafodd y Comisiynydd Alun Michael a'i ddirprwy, Emma Wools le canolog yn Uwchgynhadledd Plismona Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) a…
Gweld mwy >Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael â swyddogion a staff ar gyfer Gwasanaeth Coffa Heddlu De Cymru ddydd Gwener, 10 Tachwedd, 202…
Gweld mwy >Bydd yr adborth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i benderfynu faint y bydd y cyhoedd yn ei dalu am wasanaethau plismona drwy'r dreth gyngo…
Gweld mwy >