Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym ar gofnod ar unrhyw bwnc.
Efallai na fydd gwybodaeth sensitif ar gael i aelodau’r cyhoedd. Os felly, byddwn yn dweud wrthych pam yr ydym wedi atal ychydig o’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, neu’r holl wybodaeth.
Noder, mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth, fod Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn ddau endid ar wahân; felly os gwneir cais i un ohonynt, nid cyfrifoldeb y llall yw diweddaru, ymateb na datgelu’r mater. Os hoffech wneud cais Rhyddid Gwybodaeth i Heddlu De Cymru neu weld eu datgeliadau blaenorol, cliciwch yma.
Mae’n holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn y Cofnod Datgeliad.
Rydym yn awyddus i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Felly, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar y wefan hon yn rheolaidd o dan y ddewislen ‘Tryloywder’, a thrwy wneud hynny, rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan gynllun cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdani ar y wefan, gallwch gyflwyno cais i ni. Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig, naill ai trwy’r post, ar e-bost neu ar-lein. Mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau.
Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n darparu manylion llawn am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >